260 likes | 653 Views
ELIZABETH FRY 1780 - 1845. Yn 1780 fe gafodd Elizabeth Gurney ei geni yn Norwich i deulu o Grynwyr cyfoethog. Fe gafodd Elizabeth addysg dda, a oedd yn anghyffredin iawn i ferched y dyddiau hynny. Fe helpodd ei mam wrth iddi ymweld a’r tlawd a’r rhai sal.
E N D
Yn 1780 fe gafodd Elizabeth Gurney ei geni yn Norwich i deulu o Grynwyr cyfoethog.
Fe gafodd Elizabeth addysg dda, a oedd yn anghyffredin iawn i ferched y dyddiau hynny.
Yn ddiweddarach er fod ganddi 11 o blant, fe gariodd ymlaen gyda’r gwaith da.
Fe wnaeth ymweld yn gyntaf a Charchar Newgate yn 1813 ac fe wnaeth argraff fawr arni.
Roedd yna dros 300 o blant a menywod wedi cael eu rhoi mewn lle cyfyng iawn.
Dychwelodd Elizabeth gyda dillad cynnes a gwellt i’r menywod a’r plant sal.
Doedd dim toiledau dim ond bwced yn y cornel a dim ond ychydig o ddwr.
Roedd plant yn cael eu danfon i garchar am ddwyn bara, gwlan ac am ddifrodi coed.
Yn 1817 fe wnaeth Elizabeth drefnu i grwp o bobl helpu carcharorion benywaidd yn Newgate.
Fe wnaeth ddarparu eitemau ar gyfer y menywod i’w galluogi i wnio a gwneud nwyddau i’w gwerthu.
Fe ddecheuodd ysgol i blant yn y carchar er mwyn iddynt gael rhywbeth i’w wneud.
Yn 1818 fe ofynnwyd i Elizabeth siarad a phobl yn y llywodraeth am y carchardai.
Yn 1823 fe wnaeth Deddf y Carchar gael ei basio, ac fe gafodd nifer o welliannau eu gwneud.
Fe wnaeth Elizabeth ymweld a llawer o garchardai yn dadlau am welliannau.
Fe helpodd wella cyfleusterau ar longau i gacharorion oedd yn teithio i Awstralia.
Nid oedd carcharorion yn cael ei clymu i’r deciau yn ystod y daith.
Fe wnaeth Elizabeth Fry ddechrau cwrs hyfforddi i nyrsis hefyd.
Fe wnaeth Elizabeth Fry barhau i helpu eraill tan iddi farw ar y 12 o Hydref 1845.