10 likes | 216 Views
Dr Thomas O’Brien ( Prif Ymchwilydd )1, Yr Athro Jane Noyes ( Prif Ymchwilydd )2 , Dr Hans-Peter Kubis 1 , Yr Athro Richard Hastings 3 , Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards 4 , Rhiannon Whitaker 5 , Dr Llinos Haf Spencer 2
E N D
Dr Thomas O’Brien (PrifYmchwilydd)1, Yr Athro Jane Noyes (PrifYmchwilydd)2, Dr Hans-Peter Kubis1, Yr Athro Richard Hastings3, Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards4, Rhiannon Whitaker5, Dr Llinos Haf Spencer2 1YsgolGwyddorauChwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Canolfan YmchwilGysylltiedigagIechyd, 3 YsgolSeicoleg, 4 Canolfan Economeg a PholisIechyd, 5SefydliadHapdreialonIechydGogleddCymru (NWORTH) 1-5 Prifysgol Bangor Lles, iechyd a ffitrwydd plant â phroblemausymudedd (astudiaeth ‘Well I mi’); Cynllunio a datblyguymyriadaucadw'nheiniplentyn-ganologwedi'uhaddasuiunigolion (Teitlbyr: Astudiaeth Well i mi: Ymyriadaucadw'nheiniiblant â phroblemausymudedd) Abstract Cefndir: Yn aml, lefelau isel o weithgarwch sydd gan blant â phroblemau symudedd, ac maent yn fwy tebygol o fod yn ordew a datblygu diabetes math 2 a chlefydau cardiofasgwlaidd yn ddiweddarach yn eu bywydau. O ganlyniad, mae eu lles yn dioddef a'r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu.Byddai datblygu ymyriadau i dargedu iechyd a ffitrwydd yn cynyddu eu lles a'u hannibyniaeth yn sylweddol, ac yn gwneud dulliau iach o fyw yn rhan greiddiol o'u bywydau pan fyddant yn oedolion. Nodau/Amcanion: Asesu lles, iechyd a ffitrwydd plant gyda phroblemau symudedd. Bydd yr astudiaeth arfaethedig yn ystyried safbwyntiau ac anghenion plant er mwyn datblygu ymyriadau cadw'n heini, sy'n blentyn-ganolog ac yn llawn hwyl, i wella lles, iechyd a ffitrwydd plant 16-18 oed sydd â phroblemau symudedd. Methodoleg: Gwneir gwaith mewn tri cham i ddatblygu ymyriadau cadw'n heini sy'n blentyn-ganolog: Cam 1: Gwneir adolygiad systematig o'r ymyriadau cadw'n heini sydd ar gael ar hyn o bryd i blant gyda phroblemau symudedd. Defnyddir cyfweliadau i nodi canlyniadau pwysig i blant gyda phroblemau symudedd a'u teuluoedd, i ddatblygu dulliau asesu ac edrych ar hoff ddulliau o ymarfer corff, e.e. symbyliad, lleoliad, hyd, ymarfer unigol neu mewn grŵp, cerddoriaeth. Cam 2: Cesglir gwybodaeth sylfaenol am ansawdd bywyd a lles gan blant, yn ogystal â data ffisiolegol, yn cynnwys ffitrwydd aerobig, cyfansoddiad y corff a metaboledd. Cam 3: Yna, edrychir yn fanwl ar achosion penodol yn ôl unigolion neu gyflyrau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n blentyn-ganolog ac yn llawn hwyl i greu ymyriad dros dro i fynd i'r afael ag anghenion plant, fel y nodwyd yng ngham 2, a'u blaenoriaethau a'u dewisiadau, fel y nodwyd yng ngham 1. Cynhelir cyfweliadau/grwpiau ffocws pellach gyda phlant â phroblemau symudedd, a bydd eu rhieni a'u gofalwyr yn gwerthuso'r ymyriad a'i fireinio. Canlyniadau arfaethedig: Bydd yr ymyriad ar ffurf 'bocs gweithgarwch' ac yn cynnwys dewis o weithgareddau cadw'n heini, llawn hwyl y gellir eu haddasu'n rhwydd, a'u teilwra i blant penodol i gyd-fynd â'u gwahanol alluoedd. Casgliad: Ar ôl cwblhau'r gwaith, cynhyrchir protocol er mwyn gweithredu cynllun peilot fydd yn gwerthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd yr ymyriad cadw'n heini. Siartlif: camauastudiaeth Well i mi GêmpêlfasgedcadeiriauolwynyngngholegchwaraeonAmbergate. Llun: David Sillitoei’r Guardian Llun trwy garedigrwydd Whizz Kidz Cydnabyddiaeth Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan NISCHR CRC Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Dr Thomas O’Brien (Prif Ymchwilydd) Dr Llinos Spencer (Swyddog Ymchwil Astudiaeth Well i mi) Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Canolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, Adeilad y George, Prifysgol Bangor, Fron Heulog, Ffordd Ffriddoedd Bangor, Gwynedd, LL57 2PX Bangor, Gwynedd, LL57 2EF Ffôn: 01248 38 8250. E-bost: thomas.obrien@bangor.ac.ukFfôn: 01248 38 3171. E-bost: L.spencer@bangor.ac.uk Poster Well i mi V.4 01-07-2013 LHS