1 / 48

Gwers 1

Gwers 1. Ydych chi yn bwriadu priodi? Pryd? Pa oedran fyddai’n addas? Ydych chi’n bwriadu cael plant? A fyddech chi eisiau bod yn briod i fagu teulu/ cyn cael plant?. Ffeithiau Diddorol am Briodas. Mae 82% o bobl ifanc yn dweud eu bod am briodi yn y dyfodol

Download Presentation

Gwers 1

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Gwers 1

  2. Ydych chi yn bwriadu priodi? • Pryd? Pa oedran fyddai’n addas? • Ydych chi’n bwriadu cael plant? • A fyddech chi eisiau bod yn briod i fagu teulu/ cyn cael plant?

  3. Ffeithiau Diddorol am Briodas • Mae 82% o bobl ifanc yn dweud eu bod am briodi yn y dyfodol • Oedran priodi ar gyfartaledd yw 26 oed i fechgyn 24 oed i ferched • Mae 85% o bobl yn priodi rhywbryd yn eu bywyd ym Mhrydain

  4. Pa fath o berson fyddech chi am briodi?

  5. Beth fyddai’r peth mwyaf pwysig i chi? • Sut mae’r person yn edrych? • Personoliaeth y person? • Deallusrwydd y person? • Cryfder corfforol y person? • Iechyd y person? • Cryfder emosiynol y person? • Sensitifrwydd y person? • Ymddygiad y person tuag atoch? • Cyfoeth y person neu potensial y person i wneud arian?

  6. Dewisiadau eraill yn lle priodi • Ymgadw’n ddi-briod- aros yn ddiwair- fel arfer yn gysylltiedig ag ymrwymiad crefyddol e.e. offeiriad Pabyddol/ mynachod/ lleianod- yn rhydd i gysegru eu bywyd i Dduw • Byw gyda phartner/Cohabitation-Cyd-fyw- tua 60% o barau’n cyd-fyw rhyw bryd- tua 50% o’r rhain yn priodi’n ddiweddarach

  7. Partneriaeth Sifil • Tua 10% o’r boblogaeth yn gyfunrywiol • Erbyn hyn pobl hoyw yn medru gwneud Partneriaeth Sifil sydd yn rhoi hawliau cyfreithiol i bob partner

  8. Safbwynt y crefyddau am gyd-fyw • Yn erbyn mewn egwyddor gan ei fod yn golygu perthynas rywiol cyn priodi • Ond nifer o bobl grefyddol yn cyd-fyw yn gyntaf cyn priodi am wahanol resymau • Yn erbyn mewn egwyddor priodas parau hoyw mewn eglwys gan eu bod yn credu mai priodas rhwng dyn a menyw yw dymuniad Duw

  9. A ddylai’r safbwynt crefyddol newid ? • Mae modd cael Partneriaeth Sifil i bobl hoyw felly mae’r llywodraeth yn cydnabod hawliau parau hoyw • Pwysau ar yr eglwys Gristnogol a chrefyddau eraill i newid eu hagwedd • 2 agwedd mewn Cristnogaeth yn datblygu sef safbwynt TRADDODIADOL a safbwynt RHYDDFRYDOL (liberal)

  10. Safbwynt Traddodiadol • Priodas yn digwydd rhwng dyn a menyw • Rhodd gan Dduw • Rhyw o fewn priodas • Priodas yw’r sefyllfa delfrydol i gael plant • Yn y seremoni priodas gwneir addewidion pwysig am sut ddylai’r briodas weithio e.e. ffyddlondeb • Mae Duw yn bendithio’r briodas- sanctaidd

  11. Safbwynt Rhyddfrydol • Rhai Cristnogion yn credu y dylai dysgeidiaeth Gristnogol addasu ac os oes angen , newid i ymateb i anghenion cymdeithas gyfoes • Credant fod Cristnogaeth yn seileidig ar drugaredd a chariad (agape) tuag at eraill ac felly dylai pawb sydd am briodi mewn eglwys gael eu derbyn • Dylid caniatau i bobl hoyw dderbyn bendith ar eu partneriaeth sifil os ydynt yn dymuno- fel parau sydd wedi cael ysgariad

  12. Priodi ble? • A yw’n angenrheidiol priodi mewn lle addoli? • A ddylai pobl sydd ddim yn gredinwyr priodi mewn lle addoli fel eglwys?

  13. Priodas un rhyw? • Perthynas rhwng dau berson o’r un rhyw/Same sex relationships • A ddylai parau o’r un rhyw gael priodi mewn man addoli?

  14. Pwrpas Priodas Gristnogol • Patrwm ar gyfer cymdeithas • Wrth garu ei gilydd mewn perthynas gariadus yn gwneud ei gilydd yn hapus. • Rhyw- cyfathrach rywiol yn uno dau yn un cnawd ac yn fynegiant o’u cariad • Plant- eu cenhedlu a’u magu yn yr uned deuluol • Am oes- perthynas yw i barhau am oes • Sanctaidd- perthynas wedi ei bendithio gan Dduw

  15. Y Seremoni PRIODAS Gristnogol

  16. Ble? • Eglwys/ Capel • Oherwydd SACRAMENT yw priodas- rhywbeth sanctaidd ac arbennig iawn

  17. Mae Cristnogion am briodi gerbron Duw- perthynas y pâr wedi ei bendithio gan Dduw Capel/ Eglwys yw tŷ Duw i Gristnogion Ble?

  18. Pryd? • Unrhyw ddydd –yn aml ar ddydd Sadwrn gan fod pawb yn gallu dod i’r briodas • Dim dydd Sul fel arfer- diwrnod mae Cristnogion yn addoli ac yn mynd i’r Eglwys/Capel

  19. Pwy sy’n arwain y gwasanaeth? • Gweinidog mewn Capel • Ficer /offeiriad mewn Eglwys

  20. Paratoadau • Cael sgwrs gyda’r gweinidog/ficer fel pâr i drafod y briodas • Trefnu’r gwasanaeth • Gwahoddiadau • Dillad • Blodau • Y wledd • Mis Mêl • Diwrnod o lawenydd a dathlu fel teulu ond hefyd diwrnod difrifol o bwyso a mesur cyn dechrau pennod newydd yn eu bywyd.

  21. Trefn y gwasanaeth- Cam 1 • Emyn a’r ficer yn egluro PWRPAS PRIODAS • GOFYN AM RWYSTRAU- Holi a oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw reswm pam na ddylai’r pâr briodi-h.y. mae’r person wedi priodi yn barod

  22. CAM 2 • Addunedau/ Addewidion (Vows) y gŵr a’r wraig gyda thystion • ‘Yr wyf i…yn dy gymryd di… i fod yn ŵr/wraig i mi, i’th gadw a’th gynnal, o’r dydd hwn ymlaen: er gwell er gwaeth, er cyfoethocach, er tlotach, yn glaf ac yn iach, i’th garu a’th ymgeleddu tra byddwn ni’n dau byw…’

  23. Addunedau Priodas yn Saesneg I, ________, take thee ______, to be my wedded wife/husband,to have an to hold from this day forward, for better for worse,for richer or for poorer, in sickness and in health, to love and to cherish,'til death do us part, according to God’sordinance; and thereto I pledge thee my troth (fidelity).

  24. Cam 3 Y Fodrwy • Rhoi MODRWY i’w gilydd- CYLCH DIDDIWEDD- symbol o’u CARIAD DIDDIWEDD

  25. Cam 4 Cyhoeddi’r undeb • Y ficer yn cyhoeddi eu bod yn ŵr a gwraig ac yn dweud : ‘Y rhai a gysylltodd Duw , na wahaned dyn’

  26. Cam 5 • Darllen o’r Beibl • Sgwrs/pregeth am bwysigrwydd yr addunedau a sancteiddrwydd eu bywyd newydd gyda’i gilydd a gyda Duw • Gweddi

  27. CAM 6 • Arwyddo’r gofrestr • Y priodfab, y briodferch, rhieni a dau dyst yn arwyddo’r gofrestr i ddangos bod popeth wedi ei wneud yn gyfreithiol ac o’u gwirfodd

  28. AR OL Y SEREMONI • Lluniau • Gwledd a dathlu- torri’r gacen briodas • Cyfle i’r teuluoedd a ffrindiau i nodi’r digwyddiad pwysig hwn

  29. Byw bywyd fel pâr priod • Wedi addo bod yn ‘un cnawd’ a rhannu popeth- pethau materol fel arian ac eiddo, pethau emosiynol-eu cariad, diddordebau a magu plant gan rannu’r gwaith cyfrifol o fod yn rhieni • Wedi addo bod yn ffyddlon i’w gilydd ‘tra byddwn ni’n dau byw…’ AM OES

  30. Gwers 2

  31. Priodas Seremoni Priodas Iddewig

  32. Ble? • Synagog neu yn yr awyr agored. • O dan CHUPPAH (gorchudd-4 polyn)- symbol o harmoni /cytgord ac o gartref clud y ddau gyda’i gilydd

  33. Y Chuppah • Mae’r Chuppah yn symbol o’r cartref y bydd y par yn creu i’w hunain • Mae ochrau’r Chuppah yn agored ac yn symbol o’r ffaith y bydd eu cartref yn groesawgar ac yn agored.

  34. Pryd? • Unrhyw ddydd ond y SHABBAT –Dydd Sadwrn- diwrnod o orffwys, a gwyliau i’r Iddewon • Mae’r Shabbat yn ddiwrnod sanctaidd sydd yn dechrau ar fachlud yr haul ar nos Wener i fachlud yr haul ar nos Sadwrn.

  35. Pwy sy’n arwain y gwasanaeth? • RABBI- Offeiriad Iddewig- yn gwisgo ‘kippah’ a ‘tallith’

  36. Y ‘kippah’ • Y ‘Kippah’ yw’r penwisg (skullcap) a wisgir gan ddynion Iddewig • Mae’r ‘kippah’ yn cael ei wisgo er mwyn atgoffa’r Iddewon bod ‘Duw uwchben’ • Mae Iddewon caeth yn gwisgo’r ‘kippah’ trwy’r amser ond mae’r rhan fwyaf o Iddewon ond yn gwisgo’r ‘kippah’ yn y synagog ac ar wyliau arbennig.

  37. Y ‘Talith’ • Siôl gweddio yw ‘tallith’ • Mae’n cael ei wisgo gan ddynion a bechgyn Iddewig. • Gwisgir y ‘talith’ dros y pen a’r ysgwyddau adeg gweddiau boreol. • Mae’n wyn gyda streipiau glas neu ddu ac mae 4 cwlwm ar bob cornel sydd yn atgoffa’r person sy’n ei wisgo am reolau’r Torah- llyfrau rheolau byw yr Iddewon

  38. Y KIDDUSHIN • Gair Iddewig am briodas yw KIDDUSHIN • Ystyr KIDDUSHIN yw SANCTEIDDIO- rhywbeth arbennig iawn. • Diwrnod o lawenydd ond hefyd diwrnod difrifol o bwyso a mesur a gofyn am faddeuant cyn dechrau pennod newydd yn eu bywyd.

  39. Trefn y gwasanaethCam 1 • Y Bendithion Dechreuol • Cwpan o win- symbol o lawenydd • Y pâr yn yfed y gwin o’r un cwpan- symbol o rannu eu llawenydd

  40. CAM 2 • Darllen ac arwyddo’r KETUBAH= CYTUNDEB PRIODASOL

  41. Mae geiriau’r ‘ketubah’ yn cael eu darllen allan yn y seremoni priodas ac yna’n cael ei ddangos I bobl yn y wledd Bydd y ‘ketubah’ wedyn yn cael ei hongian ar wal mewn lle amlwg yng nghartref y par priod fel ffordd i gofio eu haddewidion i’w gilydd pob dydd. Ketubah- Cytundeb priodasol yn Hebraeg

  42. Addunedau/ Addewidion (vows) y gŵr a’r wraig • ‘Byddaf yn gofalu yn dyner amdanat, yn dy anrhydeddu a’th gynnal yn ddiffuant, a ffyddlon fel y gwedd i ŵr o Iddew.’

  43. Cam 3 Y Fodrwy • Priodfab yn rhoi’r fodrwy I’r briodferch gan ddweud: • ‘Wele yr wyt wedi dy sancteiddio I mi a’r fodrwy hon yn ol deddf Moses ac Israel.’

  44. Cam 4 Y Fendith Olaf • Dros gwpanaid o win- y cwpl yn yfed o’r Cwpan Kiddush • Symbol eu bod yn bwriadu rhannu popeth mewn bywyd a’i gilydd ac wedi uno fel un. • Darllen 7 bendith.

  45. Cam 5 TORRI GWYDRYN GWYDR • Y Priodfab yn torri’r gwydr gyda’i droed • Symbol o ba mor werthfawr yw priodi – cyfnod pwysig iawn yn eich bywyd i’w drysori.

  46. AR ÔL Y SEREMONI • Gwledd- bwyd ‘kosher’ • Wythnos o ddathlu- gwledd pob nos mewn tai gwahanol gyda’r pâr fel gwesteion arbennig

  47. Bwyd ‘Kosher’ • Yn ol y gyfraith Iddewig ni ellir bwyta -pysgod a chragen -cig moch Hefyd ni chewch -cymysgu llaeth a chig yn yr un pryd o fwyd Pam? -siwr o fod am resymau iechyd yn yr hen ddyddiau- roedd pysgod â chragen a chig moch yn gallu achosi gwenwyno bwyd os nad oedd yn cael ei goginio yn gywir

More Related