1 / 34

Amcanion y modiwl

Modiwl 1: Cyflwyniad i addysg ariannol a lle mae ‘Rheoli arian’ wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Amcanion y modiwl. Gwybodaeth am sail resymegol a phwrpas addysg ariannol.

conley
Download Presentation

Amcanion y modiwl

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 1: Cyflwyniad i addysg ariannol a lle mae ‘Rheoli arian’ wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru

  2. Amcanion y modiwl • Gwybodaeth am sail resymegol a phwrpas addysg ariannol. • Rhoi syniad o ble mae gallu ariannol wedi’i gynnwys o fewn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru, a phwysigrwydd cydlynu addysgu rhwng meysydd pwnc gwahanol yn yr ysgol. • Cyfleoedd i ystyried datblygu sgiliau fel y nodir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh).

  3. Sail resymegol a phwrpas addysg ariannol • Mae cyfle unigryw gan ysgolion a cholegau i feithrin agweddau cadarnhaol at gyllid mewn plant ifanc a chyrraedd pob rhan o gymdeithas, gan gynnwys nifer y gall fod yn llawer mwy anodd eu cyrraedd yn nes ymlaen. • Nod addysg ariannol yw rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i ddysgwyr i’w galluogi i reoli eu harian yn dda. Mae hefyd yn archwilio agweddau, emosiynau ac ymddygiad tuag at arian. • Mae addysg ariannol yn annog dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am bynciau megis anghenion a dyheadau, cyllidebu, benthyca, cynilo a gwerth gorau am arian.

  4. Gallu ariannol • Gellir rhannu gallu ariannol yn dair thema gydberthynol: • gwybodaeth a dealltwriaeth ariannol: cael gwybodaeth a dealltwriaeth o natur arian a rhyw syniad o’i swyddogaeth a’i ddefnydd • sgiliau a chymhwysedd ariannol: gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion ariannol ar draws ystod o gyd-destunau er mwyn delio â materion rheoli arian o ddydd i ddydd a dechrau ystyried sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol • cyfrifoldeb ariannol: datblygu’r gallu i lunio barn dda ynghylch sut y gall arian gael ei ddefnyddio’n effeithiol neu ei wastraffu.

  5. Pwyntiau i’w hystyried wrth gynllunio i gyflwyno addysg ariannol mewn ysgolion • Ar ddechrau’r broses gynllunio, dylai staff ysgol ystyried natur y gymuned ysgol ac anghenion a chefndiroedd ei dysgwyr. • Bydd gwahaniaeth mewn cefndir a phrofiad yn effeithio ar brofiad dysgwyr o arian a chyllid. • Mae profiad rhai dysgwyr o arian yn parhau i fod o fewn economi arian parod i raddau helaeth. • Gall amrywiaeth ddiwylliannol roi profiadau amrywiol/gwahanol i ddysgwyr am arian.

  6. Gall cyflwyno addysg ariannol ar draws y cwricwlwm: • ddarparu cyfleoedd dysgu perthnasol, heriol ac ymgysylltiol i bob dysgwr gan gysylltu dysgu â bywyd y tu allan i’r ysgol • datblygu sgiliau datrys problemau dysgwyr yng nghyd-destun bywyd go iawn • annog dysgwyr i wneud cysylltiadau rhwng gwahanol bynciau yn y cwricwlwm • annog trosglwyddo sgiliau a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd.

  7. ‘Mae’r hafaliad yn syml: dim addysg ariannol yn hafal i benderfyniadau ariannol gwael, yn hafal i ddyled bersonol a gofid, ac iechyd gwael sy’n hafal i broblem economaidd-gymdeithasol, genedlaethol.’ • (pfeg*, Tachwedd 2009) • Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen addysg ariannol yn y DU. Rhagor o fanylion i’w gweld yn www.pfeg.org

  8. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Wyth oed yw’r oedran cyfartalog pan fydd plant o’r DU yn cael eu ffôn symudol cyntaf. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  9. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Deg oed yw’r oedran cyfartalog pan fydd plant yn dechrau prynu eitemau ar-lein. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  10. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 1 ym mhob 5 plentyn wedi defnyddio cerdyn eu rhieni neu eu brodyr a’u chwiorydd hŷn i brynu eitemau ar-lein. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  11. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae dros 75% o blant 7–11 oed eisoes yn cynilo ar gyfer y dyfodol. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  12. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 54% o bobl ifanc 17 oed yn dweud eu bod nhw mewn dyled i’w teulu a’u ffrindiau. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  13. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 90% o blant yn eu harddegau yn dweud eu bod nhw’n poeni am arian bob dydd. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  14. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 51% o blant yn eu harddegau yn dweud yr hoffen nhw ddysgu sut i reoli faint maen nhw’n ei wario. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  15. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 26% o blant yn eu harddegau yn meddwl bod cardiau credyd neu orddrafftiau ar gyfer ‘gorwario’. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  16. Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 93% o athrawon a rhieni/gofalwyr yn meddwl y dylai addysg cyllid personol gael ei haddysgu mewn ysgolion. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project

  17. Materion Ariannol: darpariaeth addysg ariannol i bobl ifanc rhwng 7 ac 19 mlwydd oed mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru • Mae adroddiad 2011 Estyn Materion Ariannol yn cyflwyno saith astudiaeth achos arfer orau o’r ymagweddau a arddelir gan ysgolion i ddatblygu addysg ariannol. Mae’n defnyddio tystiolaeth a gasglwyd o ymweliadau ag 20 o ysgolion ac yn adrodd ar gasgliadau mewn perthynas ag addysg ariannol yn seiliedig ar y canlynol: • sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ariannol dysgwyr • cynllunio a chyflwyno addysg ariannol • gweithio mewn partneriaeth • datblygiad staff ac adnoddau • arweinyddiaeth. www.estyn.gov.uk/cymraeg/docViewer-w/200982.6/Materion%20Ariannol:%20%20darpariaeth%20addysg%20ariannol%20i%20bobl%20ifanc%20rhwng%207%20ac%2019%20mlwydd%20oed%20mewn%20ysgolion%20cynradd%20ac%20uwchradd%20yng%20Nghymru%20-%20Mehefin%202011/?navmap=30,119,196,

  18. Cyfleoedd yn y cwricwlwm i gyflwyno addysg ariannol • Mae elfennau penodol o addysg ariannol wedi cael eu cynnwys yn adnoddau canlynol Llywodraeth Cymru: • Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru (2008) • Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) (2013) • Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru(2008) • Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru (2008) • Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru (2008).

  19. Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.

  20. Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian

  21. Cydran rhifedd y FfLlRh Edrychwch yn fwy manwl ar y sgiliau a nodir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Ble yn eich cwricwlwm ysgol neu yn eich addysgu mae cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu’r sgiliau hyn?

  22. Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Canolbwyntir yma ar yr elfen ‘Rheoli arian’.

  23. Deilliannau dysgu Cyfnod Sylfaen y FfLlRh Rheoli arian Tasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’. learning.wales.gov.uk/resources/nlnf/?skip=1&lang=cy

  24. Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 2 y FfLlRh Rheoli arian Tasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.

  25. Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 3 y FfLlRh Rheoli arian Tasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.

  26. Ar drywydd dysgu yn y FfLlRh Os yw’n berthnasol i’ch dysgwyr chi, oes cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau uchod? Ychwanegwch eich syniadau at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.

  27. Gallu ariannol Sut gallai dysgwr sydd â gallu ariannol edrych yn yr ysgol gynradd? Sut gallai dysgwr sydd â gallu ariannol edrych mewn lleoliad 11–19? Gall y ddogfen ganllawiau Addysg ariannol i ddysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru helpu gyda’r cwestiynau uchod.

  28. Cyfleoedd trawsgwricwlaidd Mae’r ddogfen ganllaw Addysg ariannol i ddysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru yn nodi rhai cyfleoedd i ddatblygu addysg ariannol ar draws y cwricwlwm (tudalennau 27–28). Gall ysgolion ddefnyddio’r canllaw hwn ochr yn ochr â chydran rhifedd y FfLlRh i helpu i ddatblygu sgiliau ariannol dysgwyr fel y’u hamlinellir yn yr elfen ‘Rheoli arian’. Mae’r modiwlau eraill yn y pecyn dysgu hwn yn edrych yn fwy manwl ar bynciau penodol ac yn cynnig syniadau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

More Related