290 likes | 530 Views
SBWRIEL. Gan flwyddyn 4, 5 a 6. SBWRIEL. Dyfyniadau ein dosbarth o wastraff. Roedd ein dosbarth wedi rhannu yngl ŷ n â ’u teimladau am y dyfyniad o wastraff. Gwrthrychau dydyn ni ddim yn gallu ailgylchu, pethau ‘da i ddim’ i roi yn y bag du.
E N D
SBWRIEL Gan flwyddyn 4, 5 a 6
Dyfyniadau ein dosbarth o wastraff Roedd ein dosbarth wedi rhannu ynglŷn â’u teimladau am y dyfyniad o wastraff. • Gwrthrychau dydyn ni ddim yn gallu ailgylchu, pethau ‘da i ddim’ i roi yn y bag du. • Dyma’r defnydd dydyn ni ddim yn defnyddio neu angen nag eisiau e.e. bwyd, poteli plastig a phapur.
Yn y dosbarth wnaethom drefnu a chyfri’r gwastraff o’r bin ar ôl diwrnod.Dyma’r canlyniadau!
Beth mae’r graff yn dangos? • Mae’r graff yn dangos bod y swm o wastraff papur ar ôl un diwrnod yn warthus achos rydych yn gallu ailgylchu papur. Rydym yn anhapus gyda’r papur brown achos mae’n wych ar gyfer creu modelu yn gelf. • Hefyd, roeddwn yn siomedig gyda’r nifer o wrthrychau plastig, gyda 13 darn o blastig! Mae rhaid i ni wneud rhywbeth am y mater difrifol yma, rhaid Arbed, Ailddefnyddio ac Ailgylchu! • Mae’r gwastraff bwyd fel croen oren hefyd yn siomedig achos gallwn ailgylchu’r croen wrth ei rhoi mewn i’r bin compost. • Mae’n amlwg y gallwn leihau’r gwastraff yn y dosbarth wrth gymer mwy o ofal a bod yn llai diog.
Roedd angen darganfod mwy! • Wnaethom gynllunio holiadur ar gyfer ein rhieni. Pwy sydd yn ailgylchu?!! • Dewch i weld beth yr ydym wedi darganfod.
Yn ffodus, mae pawb yn ailgylchu rhyw faint. Mae’r siart yn dangos ein canlyniadau.
Ydy hyn yn digon? Ond mae’r rhan fwyaf yn cytuno, Bod angen gwneud mwy! Tybed a wneuth teuluoedd yr ardal ailgylchu yn fwy effeithiol os byddai’r cyngor yn ystyried creu maes tirlenwi yng Nghasmael!! Dyma ein teimladau / gofidiau.
Teimladau'r dosbarth, petai faes tirlweni yn dod i Gasmael Bydd Casmael yn drewi! Bydd gwerth ein tai yn lleihau! Bydd Sbwriel yn chwythu ym mhob man! Bydd y ffermwyr yn colli eu tir! Bydd yr anifeiliaid yn dioddef!
Cyngor Ysgol Casmael • Symud ymlaen! • Rydym wedi gweld gwerth ailgylchu, felly mae aelodau ein cyngor wedi bwrw ymlaen i greu cynllun.
Rydym yn casglu poteli plastig er mwyn creu ty gwyrdd. Mae angen mwy arnom!
Ein bin compost! Gobeithio gallwn dyfu llysiau rhywbryd!
Gwnaeth flwyddyn 2 a 3 arwyddion ar gyfer sbwriel allan o sbwriel!
Rydym ar y ffordd! Mae Ysgol Casmael yn falch ein bod yn ceisio ailgylchu. Nawr, rydym eisiau darganfod mwy am ailgylchu yn Sir Benfro, felly rydym wedi arsylwi maes tirlenwi Rudbaxton, diolch i drefniadau Mrs.Lawrence. Aeth y plant bach yn gyntaf. Yna aeth flwyddyn 3, 4, 5 a 6 gyda chwestiynau yn barod i’w ofyn.
Aeth y plant bach am dro o gwmpas Casmael i weld sefyllfa’r sbwriel ac os oedd arwyddion o ailgylchu yn mynd ymlaen! Roedd ychydig o sbwriel. Ond dim llawer! Daethant ar draws banc poteli. Mae hyn yn arwydd o ailgylchu! Tybed beth sydd yn digwydd i’r poteli, y gofynwyd.
Yna aeth y plant bach i’r maes tirlenwi wythnos diwethaf. Gawn ni weld beth maent yn cofio! Roedd rhaid gwisgo’r cotiau am diogelwch!!
Cofiodd y plant bach am y poteli swnllyd yn cael eu harllwys o’r banciau. • Dywedodd y plant fod y poteli gwyrdd, brown a glir wedi eu rhannu ac yn barod i’w ailgylchu yn ôl i boteli. • Ond fod y cymysgedd o boteli yn cael eu torri yn faen nes maent yn troi i dywod er mwyn gwneud ein ffyrdd.
Roedd y gweithwyr yn trefnu’r sbwriel o’r bagiau oren, gyda phawb yn edrych am bethau penodol. Er enghraifft roedd un yn casglu cardfwrdd o’r cludfelt ac yn eu taflu i’r bibell gywir. Roedd y sbwriel yn gostwng i’r rhannau penodol.
Mmm……..diddorol. Er bod y plant bach wedi cofio llawer, roedd mwy o wybodaeth i’w ddarganfod, felly wnaethom greu holiadur.
Cwestiynau i’r tip • 1. Beth yw maint y tip? • 2. Faint o sbwriel sydd yn y tip pob blwyddyn? • 3. Sawl diwrnod ydych chi’n gweithio? • 4. Faint ydych chi’n ailgylchu pob wythnos/flwyddyn? • 5. Pa fath o offer ydych chi’n defnyddio? • 6. Faint o fagiau ydych chi’n cael yn y maes tir lenwi? • 7. Ydy gyd o’ch sbwriel yn aros yng Nghymru? • 8. Ydy anifeiliaid yn dioddef? • 9. Faint o dryciau sydd yn mynd mas bob dydd? • 10. Beth yw’r canran o sbwriel yr ydych yn ailgylchu i gymharu â’r ganran dydych chi ddim yn ailgylchu?
Erbyn hyn mae’r neges yn glir i ni!! Ydy’r neges yn glir i chi? Ailgylchu Arbed Ailddefnyddio