1 / 40

Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?

Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?. Amcanion y modiwl

gram
Download Presentation

Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?

  2. Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae ymwybyddiaeth defnyddwyr yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun ‘cynigion arbennig, disgowntiau a gwerth am arian’. • Adnabod gweithgareddau defnyddwyr a chwestiynau y gellir eu defnyddio mewn addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) a mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4. • Darparu rhestr o wefannau defnyddiol sy’n gysylltiedig â chyfrifo cynigion arbennig, gemau ar-lein a gweithgareddau Masnach Deg. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu’n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.

  3. Nodau’r dysgwyr • Gellir defnyddio’r modiwl hwn ar draws cyfnodau allweddol a bydd y nodau yn wahanol ym mhob cyfnod allweddol. Mae’r nodau hyn yn cynnwys cael dysgwyr i: • werthfawrogi’r eirfa a ddefnyddir wrth ddelio â chynigion arbennig a disgowntiau • adnabod y ‘cynnig gorau’ a ‘gwerth gorau’ gan ddefnyddio cyfrifiadau priodol • ystyried ystod o eitemau y byddan nhw efallai yn eu prynu a rhai opsiynau o ran ble i brynu’r eitemau • adnabod rhai atebion i’r prif broblemau sy’n debygol o godi i bobl ifanc sy’n prynu eitemau ar-lein • bod yn ymwybodol o siopa moesegol a gweithgareddau Masnach Deg.

  4. Cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh a gweld ble mae ymwybyddiaeth defnyddwyryn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.Mae hyn wedi’i amlygu mewn teip trwmar y sleidiau canlynol.

  5. Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth defnyddwyr.Mae’r rhain mewn wedi’u hamlygu mewn teip trwmar y sleid nesaf.

  6. Y pris rydym yn ei dalu • Gweithgaredd cychwynnol: Dyfalu’r pris • Dangoswch eitem i’r dysgwyr a gofynnwch iddyn nhw ddyfalu’r pris. (Gall yr eitemau amrywio o fewn y gwerthoedd a ddisgwylir i’r deilliannau dysgu ar gyfer grŵp blwyddyn – gweler cydran rhifedd y FfLlRh). • Mae’r dysgwyr yn ysgrifennu eu hymatebion ar fyrddau gwyn bach neu’n eu dangos i’r athro/athrawes drwy ddefnyddio cardiau gwerth lle arian. • Pwy yw’r agosaf? • Gall y gweithgaredd hwn arwain at drafodaethau ynghylch a oedd digon o wybodaeth ganddyn nhw i ddyfalu’r pris. Er enghraifft: • Oes angen iddyn nhw wybod o ble y cafodd yr eitem ei brynu? • Oedd e’n aml-becyn? • Oedd e’n gynnig arbennig (e.e. prynu 1 cael 1 am ddim)? • Oedd e’n newydd sbon neu’n cael ei werthu fel eitem a ddefnyddiwyd?

  7. Sut ydym ni’n gwybod beth yw gwerth da? • Darganfyddwch pa wybodaeth sydd gan ddysgwyr am gynigion arbennig. • Pa eirfa ydyn nhw’n ei chysylltu â chynigion arbennig? • Ble maen nhw’n gweld cynigion arbennig? • Pam mae archfarchnadoedd a siopau yn cyflwyno cynigion arbennig? • Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Sut ydw i’n gwybod beth sy’n werth da?

  8. Dylunio hysbyseb Tasg: Gofynnwch i’r dysgwyr ddylunio hysbyseb ar gyfer siop neu gynnyrch gyda chynigion arbennig. Ewch i wefan Hwb er mwyn i’r dysgwyr allu datblygu eu sgiliau TGCh tra eu bod nhw’n cwblhau’r dasg hon. https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/design-an-advert/index.html Mae cipluniau o’r gweithgaredd i’w gweld ar y tair sleid nesaf.

  9. Mae’r gweithgaredd hwn yn darparu dysgwyr gyda geirfa a ddefnyddir yn aml wrth gyflwyno cynigion arbennig. Gellir ei ddefnyddio i archwilio eu dealltwriaeth o gynnig fel ‘50% yn fwy am ddim’, ac i godi cwestiynau gyda dysgwyr iau, er enghraifft ‘Pam na fyddai hyn yn cynnig arbennig priodol gyda chôt ond byddai’n addas wrth hysbysebu bar o siocled?’.

  10. Ymchwilio gwerth am arian • Ar gyfer gweithgaredd ar-lein ewch i • https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/supermarket-sweep/index.html • Gwybodaeth: • Gallwch chwarae’r gêm mewn parau (neu fel gweithgaredd dosbarth gan ddefnyddio bwrdd gwyn) ac mae’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 i fyny. • Mae’r chwaraewyr yn cael cynnig hyd at 24 o fargeinion gwahanol wrth chwarae’r gêm sawl gwaith. Mae’r cynigion yn cyfeirio at: • gynigion gorau yn seiliedig ar bwysau (e.e. gramau, cilogramau) • cynigion gorau yn ymwneud â chyfaint (e.e. mililitrau, litrau) • cynigion gorau yn dibynnu ar ‘brynu un cael un am ddim’, ‘prynu un cael un hanner pris’ a ‘% yn fwy am ddim’. • Mae’r sleidiau canlynol yn dangos rhai cipluniau o’r gêm.

  11. Mae amryw o gemau arian ar-lein ar gael ar Hwb fel y dangosir yma. https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy

  12. Enghraifft o ‘gynnig arbennig’ o bapurau sampl y Profion Cenedlaethol Rhifedd

  13. Barod i rolio I ymarfer cwestiynau ‘cynnig arbennig’ ymhellach gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Barod i rolio. Gweithgaredd: Mae dysgwyr yn cael 16 dewis o ‘gynigion arbennig’ i brynu eitemau sydd ar werth yn yr archfarchnad. Cwestiynau: 1. Beth yw’r tri chynnig gorau? 2. Pa dri chynnig yw’r gwerth gwaethaf am arian? 3. Nodwch dri chynnig tebyg. 4. Pa gynnig yw’r un mwyaf anodd i weithio allan a pham?

  14. Mae archfarchnad yn gwerthu’r un brand o hylif golchi llestri mewn dwy botel maint gwahanol. Potel fawr 800ml am £1.28 Potel fach 300ml am 45c Drwy ddangos eich cyfrifiadau, esboniwch pa botel o hylif golchi llestri sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.

  15. Pecyn o cola £4.50 PRIS CYNNIG ARBENNIG 2 becyn am £7.45 Sudd oren £1.45 PRIS CYNNIG ARBENNIG 4 carton am £4.20 • Mae Mrs Jones yn trefnu disgo’r ysgol ac yn gwneud defnydd llawn o’r cynnig arbennig. Mae’n prynu 6 phecyn o cola a 12 carton o sudd oren. • Cyfrifwch faint mae hi’n ei dalu am yr eitemau. • Cyfrifwch faint yn rhagor y byddai hi wedi talu am yr eitemau hyn heb y cynigion arbennig.

  16. Bydd un rhan o dair o’r holl fwydydd rydym yn eu prynu yn mynd i’r bin. www.creditaction.org.uk(Arolwg Ionawr 2009)

  17. Mae’r sleidiau canlynol yn cyflwyno enghreifftiau o gynigion arbennig a disgowntiau sy’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio eu sgiliau rhifedd.

  18. Esboniwch pa gynnig sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i’r cwsmer. Crysau chwys hwdi 25% oddi ar y pris gwreiddiol (£45) Hwdis ⅕ oddi ar bob pris (pris gwreiddiol £45) Cynnig B Cynnig A

  19. Mae dwy sinema yn cynnig bargeinion gwahanol. Bargeinion dydd Mercher Prynu un cael un am ddim (pris arferol £7.50) Cynnig arbennig dydd Mawrth Prynu un tocyn cael 40% oddi ar yr ail (pris arferol £5.50) Mae dau ffrind am fynd i weld y ffilm ddiweddaraf ond dydyn nhw ddim yn gallu penderfynu pa noson i fynd. Esboniwch (gyda chyfrifiadau) pa noson sy’n cynnig y fargen orau. Os yw’r tri ffrind am fynd i weld y ffilm pa gynnig sy’n rhoi’r fargen orau?

  20. Mae siop yn hysbysebu’r cynnig canlynol ar gel cawod: 3 am bris 2 Faint fyddech chi’n ei arbed drwy brynu 12 potel yr un fath o gel cawod 99c yr un?

  21. Mae archfarchnad yn hysbysebu’r cynnig canlynol. Gostyngiad 20% os ydych yn gwario £25 neu fwy Mae gennych chi £25 i’w wario. Sawl bocs o siocled £3.50 allech chi fforddio ei brynu? Faint ydych chi wedi’i arbed?

  22. Pa gynnig sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i’r cwsmer? Mae tair siop wahanol ar y stryd fawr yn dangos yr hysbysiadau canlynol yn eu ffenestri: 20% ODDI AR BRIS POB CRYS PRISIAU CRYSAU WEDI’U GOSTWNG GAN ¼ 3 CHRYS AM BRIS 2 Siop A Siop B Siop C Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.

  23. Hoffai ysgol brynu rhai cyfrifianellau newydd. Pris y cyfrifianellau yw £5 yr un mewn tair siop ar-lein. Mae cynigion gwahanol gan bob siop. Cydrannau Jones a’i Feibion Cyfrifianellau Prynu 3 cael yr un nesaf am ddim Offer ystafell ddosbarth Cyfrifianellau 30% i ffwrdd Siop Nwyddau Ysgol a Swyddfa Cyfrifianellau 3 am bris 2 Hoffai’r ysgol brynu 20 o gyfrifianellau. Esboniwch (gyda chyfrifiadau) pa siop sy’n cynnig y fargen orau.

  24. Mae Mr Evans am brynu carped ar gyfer ei ystafell betryal sy’n mesur 4.5 metr wrth 4 metr. Mae wedi dewis carped streipiog sy’n cael ei werthu am £7.99m2. Mae’r siop yn cynnig disgownt o 10% a dosbarthu a ffitio am ddim am gyfnod cyfyngedig o 2 ddiwrnod. Cyfrifwch gyfanswm cost carpedu’r ystafell. 4.5m 4m Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.

  25. Mae garddwr am greu lawnt. Mae siâp y lawnt i’w weld isod ac mae’r onglau yn onglau sgwâr. 7m • Mae’n rhaid iddo benderfynu p’un ai i ddefnyddio hadau porfa neu dyweirch. • Pris blwch o hadau porfa yw £5.99 a bydd yn gorchuddio 12m2. • Pris tyweirch yw £1.45 y metr sgwâr. 3m 9m 4m Ar hyn o bryd mae disgownt o 50% oddi ar roliau o dyweirch. P’un yw’r opsiwn rhataf a gan faint? Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.

  26. Diogelwch defnyddwyr Hyd yma mae’r modiwl hwn wedi edrych ar fod yn ddefnyddiwr doeth o ran prynu’r bargeinion gorau ac ystyried cynigion arbennig. Mae’r gweithgareddau nesaf yn ymwneud â bod yn ddefnyddiwr diogel. Maen nhw’n edrych ar y risgiau a’r manteision o brynu o amryw o leoedd, gan gynnwys siopa ar-lein.

  27. Y lle gorau i brynu Yn y gweithgaredd hwn bydd dysgwyr yn ystyried amryw o bethau y gallen nhw eu prynu a rhai dewisiadau o leoedd i brynu’r eitemau. Maen nhw’n ystyried y risgiau a’r manteision o brynu o bob lle ac yn penderfynu ar y lle gorau i brynu’r eitem. Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylid defnyddio’r gweithgaredd Testun 1 ‘Gwario’n gall (tudalennau 15–20) gyda’r thaflenni adnoddau cysylltiedig (tudalennau 5–7). Lawrlwytho’r pecyn cymorth a’r adnoddau cysylltiedig yn www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?lang=cy

  28. Rhybudd i’r prynwr Gall mesurau diogelu i ddefnyddwyr sy’n prynu ar y rhyngrwyd neu’n syth o’r siop fod yn eithaf cymhleth. Mae’r gweithgaredd a gyflwynir yn y ddolen adnoddau isod yn weithgaredd paru cardiau ‘ymarferol’. Pwrpas yr ymarfer yn syml yw canfod rhai atebion i’r prif broblemau y mae pobl ifanc sy’n prynu ar-lein yn debygol o’u hwynebu. Adnodd: Rheoli Arian, Gweithgaredd 2 ‘Rhybudd i brynwyr’ (tudalennau 17–25). Lawrlwytho’r adnodd yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html

  29. Masnach Deg Mae’r gweithgareddau nesaf yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ystyried bod yn ddefnyddiwr moesegol.

  30. Gêm y banana split Gweithgaredd ystafell ddosbarth yw hwn ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 i gyflwyno’r gadwyn banana a thrafod ‘pwy sy’n cael beth’ o werthu bananas. Mae’r dysgwyr yn darllen gwybodaeth am 5 o bobl sy’n rhan o’r gadwyn banana a’u disgrifiadau swyddi, sef: • gweithiwr banana • perchennog planhigfa • cludwr • siopau ac archfarchnadoedd • mewnfudwr ac aeddfedwr. I lawrlwytho’r adnodd Banana split ynghyd â deunyddiau gwahaniaethu ategol eraill sy’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 4, ewch i http://fairtradewales.com/resources/resources-for-school Gweithgaredd grŵp: Gan ddefnyddio’r wybodaeth, penderfynwch faint o’r 30c y dylai pob person/lle ei gael am y gwaith/swydd yn y gadwyn banana.

  31. Eich dewis Mae’r gweithgaredd newydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ystyried bod yn ddefnyddiwr moesegol. Gweler Rheoli Arian, Gweithgaredd 6 o’r enw ‘Eich Dewis Chi’ (tudalennau 49–51). https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html Mae’r gweithgaredd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ystyried y ffactorau sy’n gysylltiedig â phrynu eitemau Masnach Deg a heb fod yn Fasnach Deg. Gall y gweithgaredd gael ei ategu drwy ddefnyddio map y byd i ystyried milltiroedd bwyd. Gweler y gêm milltiroedd bwyd ar-lein yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/food-miles/index.html

  32. Gwefannau ac adnoddau cysylltiedig â defnyddwyr • www.creditaction.org.uk Elusen Addysg Arian Genedlaethol – mae’n darparu ystadegau diddorol sy’n gysylltiedig â chyllid cenedlaethol, gwybodaeth ac adnoddau. • www.nationwideeducation.co.uk Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau a thaflenni gwaith i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein – gweler o dan Sgiliau Arian > Cyllid Personol > Disgyblion/Myfyrwyr). Taflenni gwaith dwyieithog ar gynigion arbennig a disgowntiau 12–14 oed: ‘MoneyMaths – CorrectChange’ a ‘Money Maths – PerfectPercentages’. • www.pfeg.org pfeg (Grŵp Addysg Cyllid Personol) – elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o wybodaeth i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy Gemau seiliedig ar arian dwyieithog ar-lein: Ar ras i’r archfarchnad a Dyluniwch Hysbyseb.

  33. Gwefannau ac adnoddau Masnach Deg/moesegol • https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy Gemau ddwyieithog ar-lein ryngweithiol: Milltiroedd Bwyd a Coffi Masnach Deg. • http://fairtradewales.com/we/ • Syniadau dwyieithog (gweithgareddau, gemau a syniadau ar gyfer gwasanaeth) ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4. • www.traidcraftschools.co.ukAdnoddau trawsgwricwlaidd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i ôl-16. • www.ethicalsuperstore.comSyniadau siopa Masnach Deg, ecogyfeillgar ac organig i ddysgwyr eu hymchwilio.

More Related