110 likes | 288 Views
Llyfrgell Casnewydd. CASNEWYDD. yn. 1800. Casnewydd yn 1800. Faint o ‘slipiau’ allwch chi ddarganfod yn ymyl yr afon? Allwch chi ddarganfod beth oedd ‘slip’?. Tua faint o strydoedd oedd gan Gasnewydd yn 1800? Beth oedd prif nodweddion y dref?.
E N D
Llyfrgell Casnewydd CASNEWYDD yn 1800
Casnewydd yn 1800 Faint o ‘slipiau’ allwch chi ddarganfod yn ymyl yr afon? Allwch chi ddarganfod beth oedd ‘slip’? Tua faint o strydoedd oedd gan Gasnewydd yn 1800? Beth oedd prif nodweddion y dref? Allwch chi ddarganfod ydy’r stryd hon yn dal i gael ei galw yn Stryd yr Eglwys (Church Street) heddiw? Beth feddyliwch chi oedd yr ochor HON i’r afon?
Cliciwch ar y llun i weld delwedd fwy … Pont Casnewydd, tua 1800 Castell Casnewydd, tua 1800 Rydych chi yma
Ydych chi’n adnabod Castell Casnewydd ac adeiladau cyfagos o’r llun hwn? Sut mae’r olygfa hon yn edrych yn debyg / wahanol heddiw? Beth ydych chi’n meddwl allai fod yn digwydd ar y cychod? Beth mae’r dynion wedi bod yn gwneud? Pa fath o gludiant allwch chi weld? Beth allwch chi ddim gweld? Beth gredwch chi y gall y dyn hwn fod yn meddwl amdano? Castell Casnewydd, tua 1800
Ydy’r bont yn y llun hwn yn edrych yr un fath â’r bont yn y llun arall? Beth gredwch chi ydy’r rheswm dros hyn? Beth allwch chi weld ar yr afon? Beth mae hyn yn ddweud wrthych chi am Gasnewydd yn 1800? Pont Casnewydd, tua 1800
Yr Amser Honno a Nawr – Castell Casnewydd Beth sydd wedi aros yr un fath? Beth sydd wedi newid? Pam?
Yr Amser Honno a Nawr (Rwan)– Pont Casnewydd Beth sydd wedi aros yr un fath? Beth sydd wedi newid? Pam?
Cofio Casnewydd – 1800 Ni fydd gwedd ddigalon a budr (brwnt) y dref hon yn cadw’r ymwelydd yma’n hir iawn; bydd yn gweld adfeilion y castell wrth ddod i mewn i’r dref, ac wrth adael bydd yn gweld Eglwys Sant Gwynllyw (St Woolos), ac yna mae ar ei ffordd i Gaerdydd heb aros ennyd! (Sir Richard Colt Hoare) Mae amgylchoedd Casnewydd yn hyfryd, ac yn gwneud iawn am ei golwg ddigalon. Roeddwn i wedi rhyfeddu’n arbennig gyda harddwch yr olygfa mewn dôl i’r gogledd orllewin o’r dref … Mae’r ddôl hon wedi ei hamgylchynu gan res gylchog o fryniau, wedi eu gorchuddio’n hyfryd gan gymysgedd o goed a thir pori; ac yn y pellter, rhes syth o fynyddoedd, sy’n ymestyn o Rhisga i gyfeiriad Pont-y-pŵl, gan gyflwyno gwedd brydferth gyda phelydrau’r haul yn machlyd. (Coxe, A historical Tour Through Monmouthshire, 1801.) Yn syth wedi gadael Parc Tredegar fe groesom afon Ebwy ar hyd pont hir, gul, ac yn union daethom i mewn i Gasnewydd, tre fudur (frwnt) wedi ei hadeiladu’n wael a bron iawn, dim ond yn cynnwys un stryd hir yn ymdroelli lawr i gyfeiriad glan Afon Wysg. (J T Barber, A Tour Through South Wales and Monmouthshire, 1803.) Mae’r lle hwn (Casnewydd) … er nad yw’n eang iawn, yn cynnwys nifer o dai da, yn bennaf o amgylch safle’r farchnad; mae’r stryd fawr yn arbennig o serth, ac mae’r bobol sy’n byw ar un ochor, ar godiad sylweddol uwchlaw’r ffordd, lle mae’r palmant nid yn unig yn anwastad ond hefyd yn beryglus, yn parhau at Eglwys Sant Gwynllyw (St Woolos), ar ben y rhiw.. (Manby, Historic and Picturesque Guide. 1802) Mae hi’n dref sy’n ymledu’n hir a chul, wedi ei hadeiladu’n rhannol ar le gwastad ar lannau’r Afon Wysg, ac yn rhannol ar lethr. Mae’r strydoedd yn fudr (frwnt) ac wedi eu palmentu’n wael; mae’r tai’n gyffredinol, yn edrych yn ddigalon. (Coxe, A historical Tour Through Monmouthshire, 1801.)
Beth sydd angen i chi wneud … 1) Mae gan y sleid hon bedwar o ddarnau wedi eu hysgrifennu am Gasnewydd yn nechrau’r 1800au. Darllenwch bob darn a phenderfynwch a yw’r person sy’n ei ysgrifennu DROS neu YN ERBYN y newidiadau a welwyd. Cliciwch UNWAITH ar osodiad i’w droi’n LLWYD (yn erbyn). Cliciwch ETO ar osodiad i’w droi’n FELYN (dros). Cliciwch ETO ar osodiad i’w droi’n WYN (heb benderfynu). Gallwch ailadrodd yr uchod mor aml ag y dymunwch hyd nes y penderfynwch ar eich dewis. 2) Darllenwch y darnau eto. Allwch chi ddarganfod pa sylwadau allai fod yn FFAITH a pha rai sy’n swnio fel BARN yr awdur. Defnyddiwch eich offer amlygu bwrdd gwyn i farcio eich darganfyddiadau!