190 likes | 389 Views
Modiwl 7. PISA ar draws y cwricwlwm. Nod y modiwl. Meithrin dealltwriaeth o sut mae cwestiynau enghreifftiol PISA a chamau datblygu sgiliau â chymorth yn gysylltiedig â themâu'r cwricwlwm cenedlaethol a meysydd llafur TGAU. Amcanion y modiwl.
E N D
Modiwl 7 PISA ar draws y cwricwlwm
Nod y modiwl • Meithrin dealltwriaeth o sut mae cwestiynau enghreifftiol PISA a chamau datblygu sgiliau â chymorth yn gysylltiedig â themâu'r cwricwlwm cenedlaethol a meysydd llafur TGAU.
Amcanion y modiwl • Canfod cysylltiadau rhwng cwestiynau enghreifftiol PISA a'u maes pwnc eu hunain. • Dechrau cynhyrchu cronfa o gwestiynau ysgogol TGAU y gellir eu defnyddio ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc er mwyn helpu dysgwyr i: • gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd • gweithio'n greadigol a gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu sgiliau meddwl, llythrennedd a rhifedd.
Tasg 1: Rhowch eich hunain yn eu hesgidiau nhw!
Rhowch eich hunain yn eu hesgidiau nhw! • Meddyliwch am ddysgwr rydych yn ei addysgu ym Mlwyddyn 10. • Trafodwch a gwnewch rai nodiadau ar y cwestiynau canlynol:
Taflen waith 1: Esgidiau B). Pa sgiliau y mae'n eu defnyddio mewn pynciau eraill? A). Pa mor dda mae'n perfformio mewn gwahanol bynciau? C). Pa sgiliau y gallai eu datblygu ymhellach yn eich pwnc? 4 munud Ch). Pa mor dda y mae'n ymdrin â chyd-destunau anghyfarwydd? D). Pa mor effeithiol y mae'n rhyngweithio ag athrawon a chyd-ddysgwyr mewn gwahanol bynciau?
Cyfleoedd ehangach Fframwaith Sgiliau PISA fel cyd-destun dysgu Nod PISA yw ateb cwestiynau fel: • a allan nhw ddadansoddi, rhesymu a chyfathrebu'n effeithiol? • pa mor dda y maen nhw’n trosglwyddo syniadau a datrys problemau? • a oes ganddyn nhw y gallu i barhau i ddysgu drwy gydol eu bywyd? (Llywodraeth Cymru, AdAS, 2012, tudalen 2) Dylid anelu at y nod o ddatblygu cwricwlwm gyda gweithgareddau dysgu priodol sy'n: • rhoi sgiliau trosglwyddadwy i ddysgwyr • perthnasol, heriol, diddorol ac yn cynnig mwynhad i bob dysgwr • trawsnewid dysgu i gynhyrchu dysgwyr gydol oes dyfeisgar, cadarn a myfyriol. (Llywodraeth Cymru, APADGOS, 2008, tudalen 3)
Cyfleoedd ehangach Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol • Mae'r FfLlRh yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn caffael ac yn gallu cymhwyso'r sgiliau a'r cysyniadau hynny a ddysgwyd i gwblhau tasgau realistig sy'n briodol ar gyfer eu cyfnod datblygiad. (Llywodraeth Cymru, AdAS, 2013, tudalen 8)
Cyfleoedd ehangach Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol Bydd athrawon yn gallu: • datblygu cynnwys y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod cyfle gan bob dysgwr i ddatblygu a mireinio . . . sgiliau • integreiddio llythrennedd a rhifedd yn eu haddysgu – beth bynnag fo'r pwnc. (Llywodraeth Cymru, AdAS, 2013, tudalen 8)
Tasg 2: Cyd-destunau creadigol
Cyd-destunau creadigol • Dewiswch o leiaf ddau o'r cyd-destunau PISA o'r taflenni adnoddau i'w trafod yn eich grŵp. • Cwblhewch daflen ymateb grŵp ar gyfer pob un o'r cyd-destunau a ddewiswyd gennych. • Byddwch yn barod i roi adborth ar eich sylwadau i grwpiau eraill. 12 munud OECD, 2009
Adborth ar gyd-destunau creadigol Meysydd PISA • Syniadau, cyfleoedd, buddiannau, heriau? Esgidiau rhedegDarllen Curiad calonLlythrennedd Mathemategol MorelandDarllen Di-chwaethDarllen Golau sêrLlythrennedd Gwyddonol Brech y LlygodLlythrennedd Gwyddonol Amser ymatebLlythrennedd Mathemategol Plan rhyngwladolDarllen ATEBION OECD, 2009
'Cylch cysur' neu 'risg' Mae nifer o'r cwestiynau [PISA] yn gofyn i'r dysgwyr ddefnyddio eu sgiliau datrys problemau mewn cyd-destunau newydd. Felly, mae'n rhaid i ddysgwyr gael sgiliau datblygedig, yn enwedig sgiliau llythrennedd, rhifedd a datrys problemau, â'r hyder i wynebu her cwestiynau sydd y tu allan i’w cylch cysur eu hunain. (Llywodraeth Cymru, AdAS, 2012, tudalen 3)
'Cylch cysur' neu 'risg' Mae nifer o'r cwestiynau [PISA] yn gofyn i'r dysgwyr ddefnyddio eu sgiliau datrys problemau mewn cyd-destunau newydd. Felly, mae'n rhaid i ddysgwyr gael sgiliau datblygedig, yn enwedig sgiliau llythrennedd, rhifedd a datrys problemau, â'r hyder i wynebu her cwestiynau sydd y tu allan i’w cylch cysur eu hunain. (Llywodraeth Cymru, AdAS, 2012, tudalen 3) Pa mor aml ydyn ni'n cymryd risgiau ac yn gweithio y tu allan i'n 'cylch cysur' gyda chyd-destunau anghyfarwydd i ni?
Tasg 3: Cynhyrchu ar gyfer TGAU
Cynhyrchu ar gyfer TGAU • Dewiswch ddau o'r cyd-destunau TGAU a gyflwynir a cheisiwch gynhyrchu eich cwestiynau PISA eich hunain. 9 munud WJEC CBAC Cyf., 2013
Casglu cronfa o adnoddau traws gwricwlaidd? A allai dysgwyr helpu i'w datblygu? Y pynciau Diweithdra yngNghymruHanes Elfennau Grŵp 7 Cemeg Sychwr gwalltDylunio cynnyrch GwerthiantTechnoleg bwyd Disgo yn yr ysgolTGCh Aelwyd y castellSaesneg Logo 3DCelf a dylunio Y Siop GerddoriaethBusnes cymhwysol Bil nwyMathemateg Hawliau DynolAstudiaethau crefyddol WJEC CBAC Cyf., 2013
Amser gweithredu? • Darllenwch bob datganiad a rhowch dic yn y blwch i nodi i ba raddau rydych yn cytuno â nhw. • Hefyd, nodwch unrhyw gamau gweithredu y gallech chi neu eich adran eu cymryd mewn perthynas â'r syniadau hyn neu syniadau eraill a godwyd yn y sesiwn.
Cyfeiriadau • Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) (2009) PISA Take the Test: Sample Questions from the OECD’s PISA Assessments. Ar gael yn: www.oecd.org/pisa/pisaproducts/pisa2000/41943106.pdf • Llywodraeth Cymru, Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) (2008), Y Fframwaith Sgiliau ar gyfer plant 3 i 19 oed. Ar gael yn: www.wales.gov.uk/dcells/publications/curriculum_and_assessment/arevisedcurriculumforwales/skillsdevelopment/SKILLS_FRAMEWORK_2007_Engli1.pdf?lang=en • Llywodraeth Cymru, Yr Adran Addysg a Sgiliau (2012), Canllaw i ddefnyddio PISA fel cyd-destun dysgu. Ar gael yn: www.wales.gov.uk/docs/dcells/publications/120629pisabookleten.pdf • Cymru. Yr Adran Addysg a Sgiliau (2013) Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Ar gael yn: learning.wales.gov.uk/resources/nlnf/?skip=1&lang=en • WJEC CBAC Cyf. (2013). Cyn-bapurau TGAU. Ar gael yn: www.cbac.co.uk/index.php?nav=106