60 likes | 186 Views
Oes yna rywbeth ddylwn i wybod? Arfer ein hawliau. Amcanion y wers. Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch yn: • deall y prif egwyddorion sy’n berthnasol i sut ddylai sefydliadau storio a defnyddio data personol; • deall fod gennych ddewis o ran sut ydych chi'n rheoli'ch gwybodaeth bersonol;
E N D
Amcanion y wers Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch yn: • deall y prif egwyddorion sy’n berthnasol i sut ddylai sefydliadau storio a defnyddio data personol; • deall fod gennych ddewis o ran sut ydych chi'n rheoli'ch gwybodaeth bersonol; • deall sut i wirio fod data a gedwir yn gywir; a • gwybod sut i gywiro data anghywir.
Wyth egwyddor y Ddeddf Diogelu Data • Rhaid i unrhyw un sy’n prosesu gwybodaeth bersonol gydymffurfio â’r wyth rheol hyn. • Rhaid iddynt sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn: • Cael ei phrosesu yn deg a chyfreithlon; • Cael ei phrosesu i ddibenion cyfyngedig; • Ddigonol, perthnasol a heb fod yn ormodol; • Gywir a chyfredol; • Cael ei chadw’n ddim hirach nag sydd angen; • Cael ei phrosesu yn unol â’ch hawliau; • Ddiogel; ac • Ddiogel rhag cael ei throsglwyddo i wledydd eraill heb amddiffyniad digonol.
(Rhowch y dyddiad) (Rhowch gyfeiriad y sefydliad) I ysgrifennydd y cwmni (os yw’r cyswllt yn hysbys), Par: (rhowch enw a chyfeiriad cyfredol) Rwy’n ysgrifennu i wneud cais gwrthrych am wybodaeth dan Ddeddf Diogelu Data 1998 am unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennych amdanaf (neu cynhwyswch fanylion penodol ynglŷn â’r wybodaeth yr ydych ei hangen yma). (Rhowch unrhyw wybodaeth y credwch fydd y sefydliad ei hangen i ddod o hyd i’ch gwybodaeth{2][3} ac i gadarnhau’ch hunaniaeth. Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr angen eich rhif cyflogres, a gallai ysbyty fod angen eich rhif GIG; gallai sefydliadau fod angen dogfen gyda’ch llofnod, er enghraifft eich pasbort neu drwydded yrru.) Rhowch wybod i mi, cyn prosesu’r cais hwn, os ydych chi angen i mi dalu ffi. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr wybodaeth hon o fewn 40 niwrnod. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau, yna cysylltwch â mi ar (rhowch rif ffôn/cyfeiriad e-bost). Yr eiddoch yn gywir (Rhowch eich enw)
Awgrymiadau defnyddiol • Cofiwch geisio anfon eich cais gyda danfoniad cofnodedig. • Cofiwch gadw gopi o’r llythyr ac unrhyw lythyrau pellach a anfonwch neu a dderbyniwch. • Efallai y bydd angen talu ffi o ddim mwy na £10, fodd bynnag, gallai hyn gynyddu yn ddibynnol ar yr wybodaeth y gofynnoch amdani, er enghraifft, codir ffi uwch am gofnodion iechyd. • Gellir anfon yr wybodaeth atoch fel argraffiad cyfrifiadurol, neu mewn llythyr neu ffurflen. • Cysylltwch â'r ICO os byddwch yn cael anhawster i gael eich gwybodaeth. www.ico.org.uk Ffôn: 0303 123 1113