170 likes | 302 Views
Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Mae GCaD Cymru yn dymuno cydnabod cefnogaeth garedig ac amhrisiadwy Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain . Hefyd dymunwn ddiolch i Paul Day am ganiatáu i ni ddefnyddio ffotograffau o Gerflun Coffa Brwydr Prydain.
E N D
Mae GCaD Cymru yn dymuno cydnabod cefnogaeth garedig ac amhrisiadwy Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain. Hefyd dymunwn ddiolch i Paul Day am ganiatáu i ni ddefnyddio ffotograffau o Gerflun Coffa Brwydr Prydain. “Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr.” Winston Churchill Eglurhad Dangos y Sioe Sleidiau
Mae Brwydr Prydain am fwy na hanes y peilotiaid dewr oedd yn peryglu eu bywydau bob dydd i amddiffyn Ynysoedd Prydain rhag rhengoedd o awyrennau bomio’r Luftwaffe, a’r awyrennau ymladd, cyflym oedd yn eu hebrwng. Mae’n stori am genedl yn ymdrechu’n gydweithredol i hybu cynhyrchu defnyddiau rhyfela ac i sefyll yn y bwlch i amddiffyn y wlad. Roedd ysbryd y bobl Brydeinig a’u profiadau yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â’u penderfyniad i ailddyblu eu hymdrechion a pheidio ag ildio i fygythiad, yr un mor hynod â champau chwedlonol peilotiaid y Llu Awyr Brenhinol (RAF).
Oni bai am ddewrder y peilotiaid a Chriw Daear yr RAF does dim amheuaeth y byddai’r wlad wedi cael ei threchu ym Mrwydr Prydain. Oni bai am ddyfais radar byddai’r peilotiaid wedi cael trafferth cyfarfod â’r gelyn wrth i awyrennau’r Luftwaffe gyrraedd yr arfordir. Ar ben hynny, oni bai am ddewrder a phenderfynoldeb pobl Ynys Prydain ac areithiau Winston Churchill yn eu hysbrydoli, ni fyddai’r peilotiaid wedi gallu cyflawni eu gwaith mor hynod o effeithiol. Mae’r gofeb a’r sioe sleidiau hon yn cael eu cyflwyno i’r bobl ddewr hynny a’r gweithredoedd arwrol a gyflawnwyd ganddynt yn ystod yr awr dyngedfennol honno.
Cofeb Brwydr Prydain Mae’r sioe sleidiau hon yn chwarae’n awtomatig
Gorffennaf 1940 - mae’r Gwylwyr yn cadw llygad barcud ar yr awyr, gan adrodd unrhyw dystiolaeth o gyrch gan awyrennau’r gelyn yn ôl i’r Ystafell Ymgyrch y Sector.
Mewn ystafell danddaearol mae plotyddion Llu Awyr Cynorthwyol y Menywod (WAAF) yn defnyddio marcwyr cod lliw a map mawr o Ynysoedd Prydain i nodi cyrch yr awyrennau.
Mae peilotiaid yr RAF yn torheulo yn yr haul, gyda’u parasiwtiau a siacedi achub Mae-West wrth law, yn aros am yr alwad i Sgramblo.
Yn eu cartrefi mae’r bobl gyffredin yn disgwyl yn nerfus ac yn dyfalu pryd fydd awyrennau bomio’r Luftwaffe yn cyrraedd uwchben eu pentrefi a’u trefi.
Yn y ffatrïoedd mae merched yn helpu i gynhyrchu’r awyrennau sy’n hollbwysig ar gyfer amddiffyn Ynysoedd Prydain.
Yn yr awyr uwchben Prydain mae ymryson ffyrnig wrth i beilotiaid awyrennau Spitfire a Hurricane herio peilotiaid profiadol y Luftwaffe.
Ar y meysydd awyr mae Criwiau Daear yn gweithio’n ddiflino i ailarfogi a llenwi tanciau petrol yr awyrennau ymladd, er mwyn gallu eu hedfan unwaith eto i’r frwydr.
Mae gynwyr gwrth-awyrennol yn ceisio chwalu rheng arall o awyrennau bomio’r Almaen wrth iddynt anelu am ddinas a’i thrigolion.
Mae cynifer o awyrennau bomio, nid oes modd eu saethu i gyd i lawr. Yn ystod y Blitz mae strydoedd Llundain yn llawn mwg a rwbel.
Unwaith mae seiren yn cyhoeddi fod cyrch y gelyn drosodd a’i bod yn ddiogel mentro allan mae Wardeiniaid yr ARP yn cloddio am oroeswyr sydd wedi’u claddu yn yr adfeilion.
ErbynMisHydref 1940 roeddBrwydrPrydaindrosoddiraddauhelaeth. Doedd y Luftwaffe ddimwedidinistrio’r RAF ac felly bu’nrhaidi Hitler roi’rgoraui’rsyniad o laniomilwyrararfordirLloegr. Foddbynnagroedd y bomiomewntrefi a dinasoeddynparhau. Mae diolchgarwch pob cartref ar ein hynys, yn ein hymherodraeth, ac yn wir ar draws y byd, heblaw yn nhrigfannau’r euog, yn ymestyn at y peilotiaid Prydeinig hynny nad ydynt yn cael eu blino gan y grymoedd sy’n eu herbyn, sy’n ddiflino wrth wynebu her barhaus a pherygl marwol, ac sydd, drwy eu gallu a’u hymroddiad yn newid cwrs y Rhyfel Byd. Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr. Winston Churchill, Awst 1940.