90 likes | 311 Views
Plannu eich bylbiau. Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd. Helo Gyfeillion! Llongyfarchiadau ar basio tasg yr wythnos ddiwethaf a mabwysiadu eich bylbiau newydd! Nawr rydych yn barod ar gyfer y dasg nesaf – Plannu eich bylbiau! Plannwch eich bylbiau ar 20 Hydref – os y medrwch !
E N D
Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd Helo Gyfeillion! • Llongyfarchiadau ar basio tasg yr wythnos ddiwethaf a mabwysiadu eich bylbiau newydd! • Nawr rydych yn barod ar gyfer y dasg nesaf – Plannu eich bylbiau! Plannwch eich bylbiau ar 20 Hydref – os y medrwch ! • Cofiwch ofalu am eich bylbiau yn gyson fel yr addewid ar y tystysgrif mabwysiadu.
Paratowch eich offer! Dylai fod gennych chi: • 1 bwlb cennin pedr • 1 bwlb crocws • 1 pot planhigyn • Compost neu bridd da • 1 pren mesur a phensil • 1 taflen labelu planhigion Cennin Crocws Rhoddwyd y bylbiau a'r potiau drwy garedigrwydd yr Edina Trust.
Iechyd a Diogelwch! • Meddyliwch am unrhyw ddamweiniau a allai ddigwydd wrth blannu. Wedyn penderfynwch ar set o reolau diogelwch.
Cofiwch, mae’ch bylbiau’n bethau byw – daliwch nhw’n ofalus! Cymrwch eich amser i blannu’ch bylbiau’n iawn. Ymlaciwch a mwynhewch! Darllenwch y cyngor ar blannu cyn mynd ati i blannu’ch bylbiau. Dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus er mwyn gwneud prawf teg. Pob hwyl gyda’r dasg!
Sut i blannu • Llenwch eich pot â 4cm o gompost aml-bwrpas a gwasgwch e i lawr. Rhowch smotyn bach ar flaen eich pot. 2) Rhowch fwlb y daffodil ar ben y compost gyda’r gwreiddiau’n wynebu am i lawr. Rhowch e ar yr ochr chwith lle mae’r smotyn yn eich wynebu chi.
Sut i blannu 3) Rhowch bridd o gwmpas eich bwlb nes ei fod wedi cuddio’n rhannol, wedyn rhowch fwlb eich crocws ar ben y pridd. Gwnewch yn siwr bod lle rhwng y bylbiau. Rhowch y bwlb yma ar yr ochr dde pan fo’r smotyn yn eich wynebu chi. 4) Rhowch gompost dros y bylbiau a gwasgwch e i mewn gyda blaenau’ch bysedd.
Sut i blannu 5) Llenwch y pot i fyny i’r top â chompost. 6) Rhowch digon o ddwr iddo, wedyn rhowch ragor o gompost iddo os oes angen. Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant
Nawr ewch i blannu’ch bwlb! • Pan fyddwch chi wedi gorffen, gwnewch yn siwr eich bod chi wedi plannu’r bylbiau’n iawn, wedyn labelwch y planhigion fel hyn. • Cofiwch olchi eich dwylo ar ôl plannu!