120 likes | 311 Views
Cabaret. Casglwyd ynghyd yn wreiddiol gan Mr. Ian Kilcoyne. Beth ydy cabaret? Sioe lawr sydd wedi’i llunio i roi adloniant i gwsmeriaid mewn clwb nos neu dŷ bwyta yw cabaret. Roeddent yn hynod boblogaidd yn Ffrainc a’r Almaen yn ystod y 1920au.
E N D
Cabaret Casglwyd ynghyd yn wreiddiol gan Mr. Ian Kilcoyne
Beth ydy cabaret?Sioe lawr sydd wedi’i llunio i roi adloniant i gwsmeriaid mewn clwb nos neu dŷ bwyta yw cabaret. Roeddent yn hynod boblogaidd yn Ffrainc a’r Almaen yn ystod y 1920au. Cyfres o berfformiadau sy’n cynnig adloniant ac a gyflwynir mewn clwb nos yw sioe lawr
Roedd Hitler a nifer o Natsïaid blaenllaw yn credu bod adloniant o’r math hwn yn ddirywiol, yn enwedig gan fod nifer o cabarets yn cynnwys merched hanner noeth a llawer o ddiod feddwol. Roedd Berlin, prifddinas yr Almaen, yn enwog am ei bywyd nos a daeth sawl sioe yn enwog oherwydd eu caneuon risque (awgrymog, braidd yn anfoesgar) a’u dawnsio awgrymog. Mae’r ffilm yma’n troi o gylch un o’r cabarets hyn, ond mae’r clip rydych chi’n mynd i’w wylio yn gweithredu fel cyferbyniad i’r byd gwael, anfoesol hwnnw yn ôl Hitler roedd llawer o’r Almaenwyr yn rhan ohono.
1) Gwyliwch y clip ffilm drwyddo i gyd yn gyntaf.2) Gwyliwch y clip eto’n ofalus. Bydd eich athro yn gwasgu botwm saib y DVD, neu’r fideo, er mwyn i chi allu trafod yr hyn rydych chi wedi’i weld. Efallai yr hoffech ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol am Weimar ac Almaen y Natsïaid wrth ateb y cwestiynau. 1. Pam rydych chi’n meddwl byddai’r Natsïaid yn dewis y bachgen arbennig yna i ganu’r gân?
2. Esboniwch y gân * Sut mae’r gân yn cychwyn? * Pa eiriau a ddefnyddir? * Beth yw’r teitl? * Pa fath o gân ydyw yn ôl pob golwg ar y dechrau? * Sut mae’r gân yn newid?
The sun on the meadow is summery warm.The stag in the forest runs free.But gather together to greet the storm.Tomorrow belongs to me. The branch of the linden is leafy and green,The Rhine gives its gold to the sea.But somewhere a glory awaits unseen.Tomorrow belongs to me. The babe in his cradle is closing his eyesThe blossom embraces the bee.But soon, says a whisper;Arise, arise,Tomorrow belongs to me. Click your left hand mouse button to reveal each verse.
Oh Fatherland, Fatherland,Show us the signYour children have waited to see.The morning will comeWhen the world is mine.Tomorrow belongs to me! Oh Fatherland, Fatherland,Show us the signYour children have waited to see.The morning will comeWhen the world is mine.Tomorrow belongs to me!
3. Pa effaith mae’r gân yn ei gael ar… * Y rhan fwyaf o’r bobl yn y café? * Y Sais?
4. Pam nad yw’r hen ŵr yn sefyll yn eich barn chi?Pam mae’r hen ŵr yn ymddangos yn fwyfwy trist wrth i’r gân fynd yn ei blaen?
Y Dystiolaeth Mae’r clip rydych chi wedi ei weld yn dod o ffilm a wnaed yn Hollywood. Mae’r ffilm yn seiliedig yn fras ar stori wir am Sais o’r enw Christopher Isherwood oedd yn byw yn yr Almaen yn y 1930au.
Ysgrifennodd Christopher Isherwood lyfr am ei brofiad yn dwyn y teitl“Goodbye to Berlin” 5. ‘Ni ddigwyddodd yr hyn a ddangoswyd yn y clip ffilm mewn gwirionedd. Felly nid yw’n dda i ddim fel tystiolaeth am esgyniad Plaid y Natsïaid.’Eglurwch yn ofalus a ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r gosodiad hwn.
Cwestiwn Ymestynnol 6. Enw llawn Plaid y Natsïaid oedd Plaid Genedlaethol Sosialaidd Gweithwyr yr Almaen. Sut mae’r clip ffilm hwn yn dangos ac yn helpu egluro pam roedd cymaint o Almaenwyr gwahanol yn cefnogi Plaid y Natsïaid yn y 1930au? DIWEDD