1 / 8

Maseru Prifddinas Lesotho

Maseru Prifddinas Lesotho. Maseru. Gyda’r haul wedi mynd i lawr a’r tymheredd yn disgyn roedd y teithiwr blinedig yn falch o gyrraedd ei wely yn y Lancer’s Inn ar ei noson gyntaf yn Lesotho.

wynn
Download Presentation

Maseru Prifddinas Lesotho

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. MaseruPrifddinas Lesotho

  2. Maseru Gyda’r haul wedi mynd i lawr a’r tymheredd yn disgyn roedd y teithiwr blinedig yn falch o gyrraedd ei wely yn y Lancer’s Inn ar ei noson gyntaf yn Lesotho. Cafodd ei ddeffro’n gynnar y bore wedyn gan swn traffig ar Kingsway, prif stryd Maseru. Mae’n ymddangos fod y Basotho yn canu eu cyrn ar yr esgus lleiaf! Gyda’i phoblogaeth o 400,000 Maseru yw’r brifddinas a’r dref fwyaf yn Lesotho o bell ffordd. Ceir amrywiaeth o adeiladau sylweddol ar hyd stryd Kingsway – banciau, swyddfeydd a siopau modern. Mae ymwelwyr yn cael eu denu gan siâp rhyfedd y siop Basotho Hat. Yma gwerthir casgliad eang o grefftau’r wlad.

  3. Canran isel o boblogaeth Maseru sy’n debygol o brynu yn siopau crand Kingsway. Y siopau bach lleol, y marchnadoedd a’r masnachwyr stryd sydd yn bodloni mwyafrif o’r bobl.

  4. Allan i’r wlad Mae gan y mynydd hwn le pwysig iawn yn hanes Lesotho oherwydd yma y sefydlwyd y wlad gan y brenin Mosoeshoe y Cyntaf ym 1824. Wrth law mae Qiloane, mynydd yr het. Ar ôl gadael strydoedd swnllyd Maseru mae ymwelydd yn sylweddoli yn fuan fod Lesotho yn wlad hardd iawn. Fel Cymru mae Lesotho yn wlad fynyddig, ond mae copa mynyddoedd Maloti a mynyddoedd Drakensberg ddipyn uwch na chopaon uchaf Eryri. Roedd treulio bore ym mhrysurdeb y ddinas yn hen ddigon, a braf oedd cael mynd am dro ar ôl cinio i weld y mynydd Thaba Bosiu a’r wlad o gwmpas.

  5. Lesotho yw’r unig wlad drwy’r byd sydd â’i holl dir dros 1,000 metr uwchlaw lefel y môr. Yn wahanol i Gymru mae sychder yn broblem fawr yn Lesotho a does ryfedd oherwydd gall misoedd fynd heibio heb ddiferyn o law. Mae hyn yn achos pryder i bawb, oherwydd os nad yw’r ffermwyr yn gallu hau india corn ar ddechrau’r gwanwyn (Medi/Hydref) ni fydd bwyd i’r teulu yn ystod y gaeaf. Uwd india corn (papa) yw bwyd arferol y Basotho, maent yn ei fwyta i ginio ac i swper.

  6. I bob cyfeiriad gwelir gyrroedd o wartheg a phreiddiau o ddefaid a geifr tenau yn chwilio am welltyn glas. Bechgyn ifanc fel rheol sydd yn gofalu amdanynt.

  7. Yma ac acw gellir gweld pentrefi traddodiadol iawn yr olwg, gyda’u tai bach crwn (rondhabole) a sgwâr (heisi). Roedd y cip olwg hwn ar gefn gwlad Lesotho wedi hogi’r awydd i gyrraedd pen y daith.

More Related