1 / 10

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR Y LLAWR

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR Y LLAWR. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC. GÊM UN. Gêm ystwytho corfforol. Titrwm , Tatrwm Sefwch mewn llinell yng nghanol y gofod gydag o leiaf droedfedd o fwlch rhwng pob un. Enw un ochr i’r gofod yw Titrwm ac enw’r ochr arall yw Tatrwm .

menora
Download Presentation

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR Y LLAWR

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. SGILIAU SYRCAS: SGILIAU AR Y LLAWR At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC

  2. GÊM UN Gêm ystwytho corfforol Titrwm, Tatrwm • Sefwch mewn llinell yng nghanol y gofod gydag o leiaf droedfedd o fwlch rhwng pob un. • Enw un ochr i’r gofod yw Titrwm ac enw’r ochr arall yw Tatrwm. • Rhedwch i ba bynnag ochr o’r ystafell a elwir allan. Efallai bydd yr athro’n pwyntio i ochr wahanol i’r un a fydd yn ei galw allan. • Wedyn bydd eich athro’n galw dau gyfeiriad ar y tro, e.e. Titrwmtitrwm(chwaraewyr i redeg i Titrwm ac yn ôl i’r canol wedyn i Titrwm eto ac yn ôl i’r canol cyn sefyll).

  3. GÊM DAU Gêm Cydsymud Pwyntio at y Gwningen • Codwch eich llaw dde i uchder ysgwydd, cau’r llaw yn ddwrn ond gadael eich dau fys cyntaf yn pwyntio i fyny’n syth. • Â’ch llaw chwith, pwyntiwch â’ch bys blaen at eich llaw dde. • Symudwch y ddwy law drosodd i’r dde, gyda’r llaw â’r ddau fys i fyny yn arwain y llaw sy’n pwyntio. • Wedyn newidiwch ddwylo fel bod y llaw dde bellach yn pwyntio at eich llaw chwith, a dau fys cyntaf y llaw honno bellach yn pwyntio i fyny. • Ailadroddwch y symudiad gan gyflymu’n raddol.

  4. GÊM TRI Gêm Canolbwyntio Syrcas, Poi, Pêl Gerdded • Sefwch mewn cylch. Mae un person yn cychwyn drwy ddweud “syrcas” a chlapio unwaith wrth y person ar y chwith. Ar ôl i bawb ddweud “syrcas” a chlapio unwaith o amgylch y cylch a’ch bod yn ôl gyda’r person cyntaf, wedyn gellir defnyddio “poi”. • Pan fydd rhywun yn anfon y clap atoch, gallwch ei anfon yn ôl i’r cyfeiriad y daeth drwy groesi’ch breichiau ar eich brest a dweud “poi”. Wedyn rhaid i’r sawl a gafodd y “poi” naill ai anfon y clap yn ôl y ffordd arall neu roi “pêl gerdded” i rywun. • Gallwch anfon “pêl gerdded” at rywun yn y cylch, ar wahân i’r ddau berson sydd nesaf atoch chi ar y naill ochr a’r llall, drwy chwifio’ch breichiau’n syth allan o’ch blaen at y sawl rydych yn ei hanfon ato. • Wedyn gall y sawl sy’n derbyn y bêl gerdded naill ai anfon “pêl gerdded” at rywun arall neu anfon clap “syrcas” i’r chwith neu i’r dde. • Allwch chi ddim ateb pêl gerdded â “poi”.

  5. SGÌL UN Troelli Platiau • Ffon Syth – canolbwyntiwch ar gadw’r ffyn yn fertigol bob amser. • Dwy law – dylid ymarfer â’r ddwy law. • Symudiad cylchol – ymarferwch symudiad cylchol da o’r arddwrn a blaen y fraich. • Troellwch y platiau’n gyflymach a chyflymach nes taro’r pwynt canol.

  6. SGÌL DAU Rhubanau • Arbrofi – chwyrlïwch y rhuban o gwmpas i weld sut mae’n teimlo a sut mae’n ymateb i’ch symudiadau. • Lefelau – ceisiwch chwyrlïo ar wahanol uchderau/planau i gael mwy o effaith weledol. • Ymarfer â dwy law – newidiwch ddwylo wrth roi cynnig ar driciau newydd er mwyn gallu defnyddio’r ddwy ar yr un pryd.

  7. SGÌL TRI Blychau Sigâr • Ymarfer ailafael – ymarferwch afael yn y blychau sigâr mewn gwahanol safleoedd. • Taflu a dal – ymarferwch daflu a dal y blychau sigâr i’r ddau gyfeiriad. • Troelli – ymarferwch droi’r blychau i’r ddau gyfeiriad.

  8. Sgiliau uwch a dilyniant • Ar ôl treulio ychydig o amser yn mynd trwy’r sgiliau sylfaenol, bydd eich athro/athrawes yn siarad â chi i weld pa driciau newydd yr hoffech eu dysgu ac yn cynnig cyngor ynghylch pa dechnegau sydd orau i’w hymarfer. • Wrth ganolbwyntio ar un tric newydd am sesiwn, byddwch yn aml yn gallu ei ddysgu erbyn diwedd y wers, a byddwch yn teimlo ichi gyflawni rhywbeth.

  9. Creu trefniant sylfaenol • Mae creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly syniad da iawn yw dysgu’r sgiliau sylfaenol nawr. • Perfformiwch y triciau y rydych chi’n gyfforddus â nhw yn gyntaf, cyn gorffen gyda’r tric newydd y buoch chi’n ei ymarfer yn y sesiwn honno.

  10. Dangos yr hyn a ddysgwyd • Mae perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd wrth ddysgu syrcas. • Cynhaliwch sioe fach ar ddiwedd pob sesiwn lle gall pob un berfformio yn ei dro, yn unigol, fesul dau neu mewn grwpiau. • Bydd hyn yn gwella eich presenoldeb llwyfan yn aruthrol ac yn helpu lleihau nerfau yn y dyfodol. • Mae’n bwysig eich bod yn gefnogol iawn i’ch cyd-berfformwyr yn y rhan hon o’r sesiwn.

More Related