1 / 11

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU CYDBWYSEDD

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU CYDBWYSEDD. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC. GÊM UN. Gêmau ystwytho corfforol. Sownd yn y Mwd

Download Presentation

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU CYDBWYSEDD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. SGILIAU SYRCAS: SGILIAU CYDBWYSEDD At ddefnydd TGAU Celfyddydau PerfformioCBAC

  2. GÊM UN Gêmau ystwytho corfforol Sownd yn y Mwd • Mae un person ‘arno’. Nod y gêm yw ticio aelodau eraill y grŵp. Pan gewch eich ticio rhaid ichi ‘rewi’ â’ch coesau ar led a’ch breichiau i fyny. I’ch ‘dadrewi’ rhaid i aelodau eraill y grŵp gropian rhwng eich coesau. Diwedd y gêm fydd pan fydd pob aelod o’r grŵp wedi rhewi neu bod yr arweinydd yn galw am orffen y gêm. • Noder: Does dim modd ticio (rhewi) aelodau’r gêm pan fyddant wrthi’n dadrewi rhywun arall! • Gallwch amrywio’r gêm drwy ddewis gwahanol safleoedd i rewi ynddyn nhw, fel safle ci (safle ffrâm-A). Gall hyn helpu ystwytho gwahanol rannau o’r corff.

  3. GÊM DAU Gêm cydsymud Ôl Traed Nain • Rhaid i bawb sefyll â’u cefnau yn erbyn y wal, ac un aelod (A) i sefyll ar ochr arall yr ystafell gyda rhywbeth wrth ei draed. Rhaid i weddill aelodau’r grŵp groesi’r ystafell a bod y cyntaf i godi’r eitem er mwyn ennill y gêm. • Tra bydd A yn edrych ar y grŵp rhaid iddyn nhw beidio symud – rhaid iddyn nhw ‘rewi’ yn eu hunfan. Wedyn bydd A yn troi ei gefn ar y grŵp a fydd yn nesáu at yr eitem gymaint ag y gallant cyn i A droi i’w hwynebu, pryd bydd raid iddynt ‘rewi’ eto. Aiff y gêm yn ei blaen fel hyn nes i un person gipio eitem A. Os bydd A yn gweld unrhyw un yn symud, gall ei anfon yn ôl at y wal i gychwyn eto. • Fel amrywiadau, gellir cael thema fel bod rhaid i bobl rewi mewn ystum sy’n gweddu i thema fel ‘Y Traeth’ neu ‘Arwyr comig’ er enghraifft.

  4. GÊM TRI Gêm canolbwyntio Cylch Cyswllt Llygaid • Ffurfiwch gylch. Bydd un person yn gwneud cyswllt llygaid â rhywun arall yn y grŵp, wedyn yn dechrau cerdded tuag ato/ati. Unwaith mae’r weithred yn amlwg, rhaid i’r un a dderbyniodd y cyswllt llygaid wneud cyswllt llygaid ag aelod arall o’r cylch a dechrau cerdded tuag ato/ati. Bydd y patrwm wedyn yn mynd ymlaen fel hyn. • Gwnewch gyswllt llygaid amlwg a CHLIR ag aelodau eraill y grŵp a byddwch yn effro ac yn barod i ymateb pan fydd rhywun yn dewis gwneud cyswllt llygaid â chi. • I’w gwneud yn anoddach, cerddwch yn gyflymach neu ddechrau patrwm arall fel bod dau neu ragor o batrymau’n mynd ar yr un pryd.

  5. Sgiliau sylfaenol • Ar ddechrau pob sesiwn bydd eich athro’n ymarfer elfennau sylfaenol y sgiliau’n gyflym. Bydd hyn yn help i gadarnhau’r hyn sy’n cael ei ddysgu ac yn gwella eich techneg gyffredinol. • Os ydych chi o hyd yn ceisio triciau newydd heb fyth ymarfer y sgiliau sylfaenol, ni fydd dim o’ch triciau’n gadarn i’w perfformio. Bydd hyn hefyd yn eich ystwytho’n barod i roi cynnig ar driciau mwy heriol. • Rhestrir rhai o’r sgiliau sylfaenol ar y sleidiau nesaf.

  6. SGÌL UN Stiltiau • Cerdded – pan fyddwch wedi meistroli hyn mae’n dal yn bwysig ymarfer y sgìl sylfaenol hon yn rheolaidd er mwyn osgoi codi arferion drwg fel peidio codi’r pengliniau’n iawn, troi’r traed tuag i mewn, neu ymddaliad gwael. • Neidio – bydd eich athro’n ceisio datblygu eich hyder yn raddol yn hyn o beth drwy ymarfer neidio’n rheolaidd gan sicrhau bod y dechneg gywir gennych chi.

  7. SGÌL DAU Rola Bola • Yn bennaf oll, peth da yw dal i chwarae â’r cydbwysedd sylfaenol. Sicrhewch eich bod yn gallu cadw cydbwysedd a sadrwydd ar y rola bola ac wedyn arbrofwch i weld pa mor bell y gallwch ogwyddo’r bwrdd wrth ddal i gadw cydbwysedd.

  8. SGÌL TRI Beic un olwyn • Yr hanfod cyntaf yw gwneud yn siŵr eich bod yn gallu reidio’r beic. Os nad ydych, bydd eich athro’n rhoi cymorth lle bo angen. • Stamina – gall reidio beic un olwyn am unrhyw gyfnod o amser fod yn waith blinedig iawn felly mae’n hanfodol adeiladu stamina. Gellir gwneud hyn a chael hwyl ar yr un pryd drwy reidio cylch penodol neu o gwmpas tir yr ysgol. • Sefyllian – sgìl hanfodol iawn er mwyn rheolaeth a llawer o driciau anoddach, felly da o beth yw ichi ymarfer hyn mor gynnar ag sy’n bosib.

  9. Sgiliau uwch a dilyniant • Ar ôl treulio ychydig o amser yn mynd trwy’r sgiliau sylfaenol, bydd eich athro/athrawes yn siarad â chi i weld pa driciau newydd yr hoffech eu dysgu ac yn cynnig cyngor ynghylch pa dechnegau sydd orau i’w hymarfer. • Wrth ganolbwyntio ar un tric newydd am sesiwn, byddwch yn aml yn gallu ei ddysgu erbyn diwedd y wers, a byddwch yn teimlo ichi gyflawni rhywbeth.

  10. Creu trefniant sylfaenol • Mae creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly syniad da iawn yw dysgu’r sgiliau sylfaenol nawr. • Perfformiwch y triciau y rydych chi’n gyfforddus â nhw yn gyntaf, cyn gorffen gyda’r tric newydd y buoch chi’n ei ymarfer yn y sesiwn honno.

  11. Dangos yr hyn a ddysgwyd • Mae perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd wrth ddysgu syrcas. • Cynhaliwch sioe fach ar ddiwedd pob sesiwn lle gall pob un berfformio yn ei dro, yn unigol, fesul dau neu mewn grwpiau. • Bydd hyn yn gwella eich presenoldeb llwyfan yn aruthrol ac yn helpu lleihau nerfau yn y dyfodol. • Mae’n bwysig eich bod yn gefnogol iawn i’ch cyd-berfformwyr yn y rhan hon o’r sesiwn.

More Related