1 / 11

Comisiynydd Plant Cymru

Comisiynydd Plant Cymru. Comisiynydd Plant Cymru. Crëwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001 er mwyn diogelu a hyrwyddo lles a hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru - mewn geiriau eraill, i sefyll i fyny dros blant a phobl ifanc.

Download Presentation

Comisiynydd Plant Cymru

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Comisiynydd Plant Cymru

  2. Comisiynydd Plant Cymru • Crëwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001 er mwyn diogelu a hyrwyddo lles a hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru - mewn geiriau eraill, i sefyll i fyny dros blant a phobl ifanc. • Mae rhaid i Gomisiynydd Plant Cymru hefyd rhoi ystyriaeth i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) neu’r United Nations Convention on the Rights of a Child (UNCRC) wrth ymwneud a’i waith. • Awgrymwyd y syniad o gael Comisiynydd Plant Cymru am y tro cyntaf yn y flwyddyn 2000 gan Syr Ronald Waterhouse. • Fe ymchwiliodd i mewn i achosion o gam-drin plant a phobl ifanc mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

  3. Comisiynydd Plant Cymru • Dangosodd ei adroddiad nad oedd llais plant a phobl ifanc wedi cael ei glywed pan roeddynt yn cwyno. • Fe ddwedodd bod angen rhywun oedd yn annibynnol i’r llywodraeth, yr heddlu a chynghorau lleol er mwyn sefyll i fyny dros hawliau plant. • Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001 fel sefydliad hawliau plant annibynnol. • Golygai hyn nad oedd y swydd yn rhan o’r llywodraeth neu unrhyw asiantaeth swyddogol arall.

  4. Comisiynydd Plant Cymru • Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael Comisiynydd Plant - mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi eu cyflwyno erbyn hyn. • Comisiynydd Plant cyntaf Cymru oedd Peter Clarke. Y Comisiynydd presennol yw Keith Towler. • Ceir Comisiynwyr plant ar draws Ewrop a’r byd - mae pob un yn amrywio rhywfaint.

  5. Comisiynydd Plant Cymru • Mae Comisiynydd Plant Cymru’n cael ei apwyntio gan Brif Weinidog Cymru • Mae’r Comisiynydd yn aros yn y swydd am 7 mlynedd ac nid oes modd iddo geisio eto am y swydd. • Mae gan y Comisiynydd 2 swyddfa. 1 yn Abertawe ac 1 ym Mae Colwyn • Mae ganddo tua 25 aelod o staff sy’n ei gefnogi.

  6. Comisiynydd Plant Cymru • Mae’r Comisiynydd Plant yn gweithio ar ran pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. • Mae hyn yn golygu pob plentyn a pherson ifanc sydd dan 18 ac yn byw yng Nghymru. • Mae gan y Comisiynydd y gallu i weithredu ar ran pobl ifanc rhwng 18 a 25 os ydynt yn cael eu cefnogi gan wasanaethau cymdeithasol.

  7. Comisiynydd Plant Cymru • Rôl y Comisiynydd yw: • Cefnogi plant a phobl ifanc i gael gwybod am hawliau plant; • Gwrando ar blant a phobl ifanc i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw; • Cynghori plant, pobl ifanc a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw os byddan nhw'n teimlo eu bod nhw'n methu mynd â'r problemau at neb arall • Dylanwadu ar y llywodraeth a chyrff eraill sy'n dweud eu bod nhw'n mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, gan wneud yn siŵr eu bod nhw'n cadw eu haddewidion i blant a phobl ifanc; • Codi llais dros blant a phobl ifanc yn genedlaethol ar faterion pwysig – bod yn bencampwr i blant Cymru.

  8. Comisiynydd Plant Cymru • Y ddeddfwriaeth: Yr hyn mae’r ddeddfwriaeth yn ei ddweud. • Mae rhaid i’r Comisiynydd: • Gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol ble mae ei swyddfeydd a sut mae modd cysylltu gydag ef a’i tîm. • • Galluogi plant a phobl ifanc i gyfrannu at waith y Comisiynydd • • Cyhoeddi adroddiad blynyddol • Gall Comisiynydd Plant Cymru ‘mond defnyddio’r pwerau sydd gan y Comisiynydd mewn meysydd sydd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a lle mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau.

  9. Comisiynydd Plant Cymru • Beth gall y Comisiynydd ei wneud pe bai’n dymuno? • Gall y Comisiynydd adolygu trefniadau sydd mewn lle ar gyda chwynion, eiriolaeth a chwythu’r chwiban. • Eiriolaeth - Mae eiriolaeth yn ymwneud â siarad dros blant a phobl ifanc. Mae eiriolaeth yn ymwneud â galluogi plant a phobl ifanc i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu a bod eu barn a'u dymuniadau yn cael eu clywed bob amser. Mae eiriolaeth yn ymwneud â chyflwyno barn, dymuniadau ac anghenion plant a phobl ifanc i lunwyr penderfyniadau, a'u helpu i fynd drwy 'r system '. (Safonau Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gwasanaethau Eiriolaeth Plant 2003) • Chwythu'r Chwiban - un sy'n datgelu camweddau o fewn sefydliad yn y gobaith o roi'r gorau iddo.

  10. Comisiynydd Plant Cymru • Be na all y Comisiynydd eu wneud • Ni all y Comisiynydd rhoi cymorth mewn achosion cyfreithiol. • Ni all y Comisiynydd adolygu gwasanaethau sydd heb eu datganoli e.e. heddlu, cyfiawnder ieuenctid, carchardai, mewnfudo, taliadau budd, y farnwriaeth neu wasanaethau’r llysoedd. • Os nad yw’n bosib’ i’r Comisiynydd i weithredu ei bwerau eraill, mae gan y Comisiynydd y pŵer i fynegi barn/wneud cynrychiolaeth i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar unrhyw fater sydd yn effeithio ar hawliau neu les plant a phobl ifanc yng Nghymru.

  11. Comisiynydd Plant Cymru Comisiynydd Plant Cymru Tŷ Ystumllwynarth Ffordd Phoenix Llansamlet Abertawe SA7 9FS Ffon: 01792 765600 Fax: 01792 765601 Comisiynydd Plant Cymru Maenor Penrhos Oak Drive Bae Colwyn Conwy LL29 7YW Ffon: 01492 523333 Fax: 01492 523336 Post@complantcymru.org.uk Rhif ffon rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0808 801 1000 TEXT 80 800 Cychwyn y neges gyda COM

More Related