1 / 11

Hyfforddeiaethau Rachel Searle Eiriolwr Darparwyr Rhanbarthol, De Cymru rachel.searle@ntfw

Hyfforddeiaethau Rachel Searle Eiriolwr Darparwyr Rhanbarthol, De Cymru rachel.searle@ntfw.org. Trosolwg o’r Hyfforddeiaethau. Cychwyn ym mis Awst 2011 Rhaglen i ddilyn Skillbuild Swydd yw’r canlyniad allweddol, ac mae’r rhaglen yn cyfrannu at lwybrau clir ar gyfer symud ymlaen

vlora
Download Presentation

Hyfforddeiaethau Rachel Searle Eiriolwr Darparwyr Rhanbarthol, De Cymru rachel.searle@ntfw

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Hyfforddeiaethau Rachel SearleEiriolwr Darparwyr Rhanbarthol, De Cymru rachel.searle@ntfw.org

  2. Trosolwg o’r Hyfforddeiaethau Cychwyn ym mis Awst 2011 • Rhaglen i ddilyn Skillbuild • Swydd yw’r canlyniad allweddol, ac mae’r rhaglen yn cyfrannu at lwybrau clir ar gyfer symud ymlaen • Anelir at bobl ifanc 16-17 oed ond gall pobl gymwys 18 oed gymryd rhan hefyd • Tair haen – Mynediad, lefel 1 a lefel 2 Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  3. Yr Haen Ymgysylltu • Ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn anelu at swydd neilltuol neu rai y mae rhwystrau’n eu hatal rhag mynd yn syth i ddysgu galwedigaethol neu fath arall o ddysgu yn Lefelau 1-3 • Presenoldeb 12-21 awr • Nifer o wahanol amgylcheddau dysgu i baratoi’r dysgwr ar gyfer gwaith neu ragor o ddysgu • Anelir at bobl ifanc a fyddai’n debygol o ddod yn NEET. • Er mai haen ‘lefel mynediad’ ydyw, gallai’r gynulleidfa darged gynnwys amrediad eang o lefelau gallu ymhlith pobl nad ydynt yn anelu at swydd neilltuol Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  4. Haen Lefel 1 • Ar gyfer dysgwyr sy’n anelu at alwedigaeth neilltuol ac a all ddilyn rhaglen ar Lefel 1, neu gyfwerth • Gallai fod yn fynediad uniongyrchol i haen lefel 1, neu gallai fod wedi symund ymlaen o’r haen ymgysylltu • Mae’n canolbwyntio ar ddarparu cymwysterau sy’n asesu cymhwysedd galwedigaethol ar Lefel 1 ond • Gall hefyd gynnwys elfennau o’r rhaglen i fynd i’r afael â rhwystrau a fyddai’n atal y person rhag symud ymlaen i waith, dysgu galwedigaethol neu ddysgu arall ar Lefel 2 neu uwch Ymysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  5. Haen Lefel 2 • Dim mynediad uniongyrchol ar y lefel hon • Mae’n agored i ddysgwyr sydd wedi symud ymlaen o Haen Lefel 1, sy’n dal mewn Grŵp Gwarant i Bobl Ifanc ac yn barod ar gyfer gwaith • Bydd yr arlwy’n cynnwys dysgu wedi’i alinio wrth fframwaith prentisiaeth yn y maes gwaith y mae’r dysgwyr wedi’i ddewis • Bydd disgwyl i ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ganfod cyflogwyr sy’n recriwtio. Caiff y rheiny eu hannog i gynnig gwaith pan fydd y dysgwr wedi cwblhau cyfnod byr (hyd at 10 wythnos) o hyfforddiant pwrpasol Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  6. Crynodeb Symud ymlaen Llwybr mynediad Ymgysylltu Dysgu pellach ar lefelau 1-3 mewn 6ed dosbarth neu Sefydliad Addysg Bellach ac ati; Prentisiaeth; Cyflogaeth neu brentisiaeth Yn uniongyrchol trwy atgyfeiriad gan y gwasanaeth gyrfaoedd Lefel 1 Lefel 2 Cyflogaeth neu brentisiaeth Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  7. Ffeithiau i ddysgwyr • Mynediad i’r rhaglen trwy atgyfeiriad gan Gyrfa Cymru • Mae Dysgwyr ar yr haen Ymgysylltu’n cael ‘Lwfans Cynhaliaeth Hyfforddiant’ heb brawf modd sy’n cyfateb i Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 yr wythnos, gyda phrawf modd, pe byddai’r dysgwr yn yr ysgol/coleg • Mae Dysgwyr ar Lefel 1 neu 2 yn cael lwfans hyfforddiant o £50 heb brawf modd am waith datblygu dysgwyr o 30 awr yr wythnos o leiaf. Caiff ei ostwng pro rata i rai sy’n mynychu rhan amser • Mae gan y Dysgwyr hawl i ddau ddiwrnod o wyliau ym mhob mis calendr a’r gwyliau statudol Ymgysylltu â Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  8. Sut y mae’r Hyfforddeiaethau yn well na Skillbuild? Mae pob haen yn yr hyfforddeiaethau wedi’i diffinio’n glir • Mae’r Haen Ymgysylltu’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth/ddysgu ar lefel uwch • Mae gan y Dysgwyr lwybr clir ar gyfer symud ymlaen • Ceir aliniad â dewisiadau eraill yn y llwybr 14-19 trwy oriau a lefel Lwfans Cynhaliaeth Hyfforddiant • Mae’r contract yn rhwymo’r Darparwr Dysgu i ddarparu cymorth ac arweiniad gan anogwr dysgu, yn unol â Llwybrau Dysgu 14-19 i bob rhaglen ieuenctid Ymgysylltu â’r Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  9. Camau i Gyflogaeth 18+ • Yn achos oedolion 18+ sydd heb fod mewn cyflogaeth ac sydd â chadarnhad eu bod yn gymwys ar gyfer Canolfan Byd Gwaith, ceir dau ddewis pendant:- • Hyfforddiant sy’n Canolbwyntio ar Waith mewn nifer o amgylcheddau dysgu: • hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar alwedigaeth ar lefelau 1, 2 a 3; • mynd i’r afael â rhwystrau rhag dysgu; • ennill y sgiliau eang sy’n angenrheidiol i gael gwaith, dysgu pellach neu symud ymlaen at Llwybrau i Gyflogaeth • Llwybrau i Gyflogaeth • Mae’n cysylltu dysgwyr â chyflogwyr neu’n hyfforddi dysgwyr i gwrdd ag angen penodol yn y farchnad lafur leol • Gall dysgwyr gymryd rhan mewn dysgu pwrpasol am hyd at 8 wythnos Learner Engagement through Work Based Learning www.ntfw.org

  10. Newidiadau Allweddol Eraill • Ymestyn y ‘Gwarant i Bobl Ifanc’ i olygu lleoli unrhyw berson ifanc cymwys mewn unrhyw ddewisiadau dysgu ôl-16 yn hytrach na dim ond dysgu seiliedig ar waith fel ar hyn o bryd. • Dim mynediad uniongyrchol i L2 mewn rhaglen ieuenctid • Fel a welwyd gyda Skillbuild o’r blaen a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn pennu targedau perfformiad ar gyfer y contract, gyda symud ymlaen i swydd neu ddysgu pellach yn ganlyniad allweddol. Ymgysylltu â Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

  11. Materion allweddol ar gyfer darparwyr a rhwydweithiau dysgu • Mae’r haen fynediad ‘Ymgysylltu’ yn yr Hyfforddeiaethau yn rhan o ddewisiadau’r Llwybrau 14-19 fel rhan o’r ddewislen 16-19. Mae’n ceisio ymgysylltu â dysgwyr na fyddai mewn addysg, gwaith na hyfforddiant fel arall • Sut y gellir gwella’r cyfathrebu rhwng ysgolion, rhwydweithiau, gyrfaoedd a darparwyr DSW er mwyn sicrhau ymdrech i gynllunio’r rhwydwaith a symud ymlaen yn amserol at y dewis lwybr, yn cynnwys sicrhau lleoliadau a swyddi addas? • Mae rhwymedigaeth ar ddarparwyr DSW o dan y contract (fel gyda llwybrau eraill 14-19) i ddarparu cymorth anogwyr dysgu. A fydd y rhwydweithiau’n cynnig cymorth i ddarparwyr Hyfforddeiaethau i hyfforddi anogwyr dysgu? Sut y gellir cynnwys anogwyr dysgu darparwyr Hyfforddeiaethau mewn digwyddiadau dysgu a gydgysylltir gan y rhwydweithiau? Ymgysylltu â Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org

More Related